Cheryl James
Mae Twrnai Cyffredinol Prydain, Dominic Grieve, wedi cymeradwyo cais am ail gwest i farwolaeth y milwr ifanc Cheryl James o Langollen, a fu farw ym marics Deepcut yn 1995.
Daeth Dominic Grieve i’r casgliad nad oedd yr achos gwreiddiol, a gofnododd reithfarn agored, wedi bod yn ddigon trylwyr.
Mae gwybodaeth newydd hefyd wedi dod i law ers iddi gael ei saethu yn 1995.
Fe fydd y mudiad Liberty, ar ran teulu Cheryl James, rŵan yn apelio i’r Uchel Lys am gwest newydd i’w marwolaeth.
Roedd y Preifat Cheryl James, 18, yn hyfforddi ym marics Deepcut pan gafodd ei darganfod gydag anafiadau i’w phen ym mis Tachwedd 1995.
Roedd hi’n un o bedwar o filwyr a fu farw yn y barics yn Surrey rhwng 1995 a 2002, a wnaeth sbarduno honiadau o fwlio a cham-drin.
Y cwest gwreiddiol
Cafodd marwolaethau Cheryl James a thri milwr arall a fu farw yn y barics, eu trin fel achosion o hunanladdiad gan y fyddin a fu’n ymchwilio i’r mater.
Cafodd rheithfarn agored ei gofnodi yn y cwest gwreiddiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Dominic Grieve: “Mae’r Twrnai Cyffredinol wedi cymeradwyo’r cais oherwydd ei fod wedi dod i’r casgliad ei fod er lles cyfiawnder i gais am gwest newydd gael ei wneud a’i glywed gan yr Uchel Lys.”
Nid oes gan y Twrnai Cyffredinol yr hawl i orchymyn cwest newydd, ond fe fydd y cais yn cael ei gyfeirio at yr Uchel Lys.
Mewn ymateb i’r datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn:
“Rydym yn parhau i gydymdeimlo â theulu a ffrindiau’r Preifat Cheryl James. Mae’r penderfyniad hwn yn fater i’r Twrnai Cyffredinol a’r Llysoedd. Os bydd cwest newydd yn cael ei orchymyn, byddwn wrth gwrs yn rhoi cefnogaeth i’r Crwner pan fydd angen.”
Bu farw’r milwyr Sean Benton a Cheryl James yn 1995, a bu farw dau arall – Geoff Gray a James Collinson yn 2001/2002 – ar ôl cael eu saethu.
‘Rhyddhad mawr’
Mae teulu Cheryl James yn byw yn Llanymynech. Dywedodd ei rheini, Des a Doreen James:
“Mae’n rhyddhad mawr ac rydym wrth ein bodd gyda chyhoeddiad y Twrnai Cyffredinol.
“Mae hi’n ddiwrnod emosiynol iawn – mae’r broses wedi bod yn hir a phoenus gyda chymaint o rwystrau, ond ni wnaethon ni erioed ystyried rhoi’r ffidil yn y to.
“Roedd bywyd Cheryl o’i blaen; pan mae ein pobl ifanc yn colli’u bywydau yn gwasanaethu’u gwlad, nid yn unig y maen nhw’n haeddu ymchwiliad llawn ac annibynnol i’w marwolaeth, fe ddylai hynny fod yn hawl sylfaenol.”