Mae Malaysia Airlines wedi amddiffyn y ffordd roedd wedi delio gyda diflaniad yr awyren MH370 wrth i’r chwilio am weddillion gael ei ohirio oherwydd tywydd gwael.
Wrth ymateb i feirniadaeth ddoe bod perthnasau’r teithwyr wedi cael eu hynysu yn ystod y chwilio am yr awyren, dywedodd penaethiaid y cwmni mewn cynhadledd newyddion yn Kuala Lumpur nad oedd hynny’n wir, gan ychwanegu ei fod wedi bod yn “gyfnod poenus” i’r cwmni.
Pan ofynnwyd i’r prif weithredwr Ahmad Jauhari Yahya a fyddai’n ymddiswyddo ar ôl i’r ymchwiliad ddod i ben, nid oedd wedi ymateb yn uniongyrchol ond dywedodd y byddai’n “ddewis personol.”
Ychwanegodd Ahmad Jauhari Yahya bod y cwmni wedi’i ymrwymo i roi pob cymorth i’r teuluoedd a’r ymchwiliad i ddiflaniad yr awyren.
Fe ddiflannodd yr awyren ar 8 Mawrth yn ystod taith o Kuala Lumpur i Beijing, gyda 239 o bobl ar ei bwrdd.
Fe glywodd y perthnasau ddoe, drwy neges testun, bod taith yr awyren wedi dod i ben yn ne Cefnfor India a’i bod yn debygol bod pob un ar ei bwrdd wedi’u lladd.
Mae perthnasau’r teithwyr wedi cyhuddo Malaysia Airlines o beidio â datgelu gwybodaeth ac fe fu protestiadau yn Beijing wrth i deuluoedd y teithwyr o China wrthdaro gyda’r heddlu tu allan i lysgenhadaeth Malaysia.
Mae Malaysia Airlines wedi dweud y byddan nhw’n parhau i roi “cymorth a chysur” i deuluoedd y teithwyr a’r criw ac maen nhw eisoes wedi clustnodi arian i’r teuluoedd i dalu am gostau gwestai a theithio.