Mae’r Post Brenhinol yn ymgynghori ynglŷn â chynlluniau i gael gwared a 1,600 o swyddi, meddai’r cwmni heddiw.

Dywed y cwmni y bydd yn dechrau ymgynghori gydag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) ac undeb Unsain ynglŷn â’r cynllun sy’n debyg o effeithio swyddi rheolwyr yn bennaf.

Yn ôl y Post Brenhinol, a gafodd ei werthu ar y Gyfnewidfa Stoc y llynedd, fe fydd 300 o swyddi newydd hefyd yn cael eu creu gan olygu mai 1,300 fydd yn colli eu swyddi.