Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno
Nid yw’n sicr a yw rhaglen Llywodraeth Cymru i adleoli 550 o swyddi o Gaerdydd i swyddfeydd rhanbarthol wedi creu gwerth am arian i drethdalwyr.
Dyna medd adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Yn 2002 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth i adleoli 550 o swyddi i swyddfeydd newydd ym Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno, ac erbyn 2002 roedd y strategaeth wedi ei gwireddu ar gost o £91.5 miliwn.
Ond mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, wedi beirniadu rhai agweddau ar yr adleoli.
Dywed yn ei adroddiad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi digon o ystyriaeth i opsiynau eraill ar wahân i godi tair swyddfa ranbarthol newydd, ac nad oedd costau’r rhaglen wedi eu hamcangyfrif yn ddigon cadarn.
Daw i’r casgliad fod llai o weision sifil wedi symud o Gaerdydd i’r swyddfeydd newydd nag y cynlluniwyd, a bod anawsterau wedi bod wrth geisio adleoli swyddi i Aberystwyth a Chyffordd Llandudno.
‘Methu dangos gwerth am arian’
“Mae Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru wedi sicrhau rhai manteision amlwg gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd, amgylchedd gwaith da ar gyfer y staff sydd wedi adleoli, a manteision economaidd i economi Cymru,” meddai Huw Vaughan Thomas heddiw.
“Fodd bynnag, ni all Llywodraeth Cymru ddangos y gwerth am arian cyffredinol ar gyfer y Rhaglen, yn bennaf oherwydd y gwendidau yn y ffordd y cafodd ei rheoli cyn 2008.”
Argymhellion
Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn argymell fod Llywodraeth Cymru yn cryfhau’r ffordd y mae’n gwerthuso opsiynau cyn gwneud penderfyniadau ar gyflawni amcanion strategol, ac yn sefydlu manteision unrhyw brosiect yn glir cyn dechrau.
Mae’r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn argymell y dylid goruchwylio a rheoli prosiectau mawr yn gadarn.
‘Testun pryder’ medd Cadeirydd pwyllgor
Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Darren Millar AC, wedi dweud ei fod yn “destun pryder” nad yw prosiect sy’n werth bron i £100m yn medru dangos gwerth am arian.
“Wrth gynllunio unrhyw raglen sylweddol o wariant cyhoeddus, mae’n hanfodol bod trefniadau gwerthuso cadarn ar waith drwyddi draw,” meddai Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd.
“Yn yr achos hwn, cyflawnodd Llywodraeth Cymru ei nod o ddatganoli staff drwy symud aelodau staff rhwng swyddfeydd, cau swyddfeydd ac adeiladu swyddfeydd newydd o amgylch Cymru, yn benodol, yn Aberystwyth a Llandudno.
“Fodd bynnag, mae’r ffaith na all ddangos gwerth am arian ar gyfer prosiect sy’n costio bron i £100 miliwn i’w weithredu, yn destun pryder.
“Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn edrych yn fwy manwl ar yr adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol agos.”