Fe fydd 180 o weithwyr yn colli eu swyddi yng nglofa fwyaf Cymru yng Nglyn Nedd, meddai’r gweinyddwyr.

Dywed Cork Gully y bydd 30 o staff yn cael eu cadw ar safle glofa Unity er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw.

Yn ôl y gweinyddwyr mae nifer o fuddsoddwyr wedi dangos diddordeb yn y safle, ac mae trafodaethau’n parhau.

Roedd dyfodol glofa Unity yng  Nghwmgwrach wedi bod yn ansicr ers peth amser.

Yn gynharach eleni fe gytunodd y gweithwyr i rannu shifftiau a derbyn llai o gyflog er mwyn ceisio arbed swyddi. Ond nid oedd rheolwyr y lofa yn gallu datrys y sefyllfa.

Fe agorodd y safle yn 2007 ar gyn safle glofa Pentreclwydau.