Clwb Pêl-droed Abertawe yn dathlu yn Wembley
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi elw sylweddol o £15.3m yn y flwyddyn hyd nes Mai 31 eleni.
Mae’r elw yn dangos cynnydd bychan o’r flwyddyn flaenorol, pan wnaeth y clwb £14.6m.
Fe welodd y clwb eu trosiant, heb gynnwys gwariant ar chwaraewyr, yn cynyddu o £1.9m i £67.1m, cynnydd o £65.2m ers y flwyddyn flaenorol.
Daeth eu helw cyn llogau a threthi i £20.6m, gan gynnwys £8.4m o weithredoedd arferol y clwb a £12.2m o brynu a gwerthu chwaraewyr.
Roedd y cyfnod yma yn cynnwys ffenestri trosglwyddo haf 2012 ac Ionawr 2013, pan werthwyd chwaraewyr megis Joe Allen a Scott Sinclair – yn ogystal â dyfodiad Michu.
Ac fe gafodd y clwb ganlyniadau gwych ar y cae hefyd yn ystod yr un cyfnod, gan orffen yn nawfed yn yr Uwch Gynghrair ac ennill Cwpan Capital One yn Wembley ar ôl trechu Bradford.
‘Hapus dros ben’
Dywedodd Cyfarwyddwr Ariannol y clwb, Don Keefe, eu bod yn fodlon iawn â’r canlyniadau.
“Mae’r bwrdd yn hapus dros ben gyda’r canlyniadau diweddaraf a’r flwyddyn yn gyffredinol, ar y cae ac oddi arni.
“Dy ni wedi rhoi’r arian a wnaethpwyd i ddefnydd da gan gwblhau’n Academi Ieuenctid gwerth £6m wrth Stadiwm Liberty, a £5m tuag at faes ymarfer newydd cyfagos yn Fairwood.
“Mae’r clwb wedi parhau i fuddsoddi yn y garfan o chwaraewyr i barhau a’r safon sydd ei angen i chwarae yn yr Uwch Gynghrair.”