Alun Wyn Jones
Wythnos i ddydd Sadwrn fe fydd Cymru yn croesawu De Affrica i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer eu gêm agoriadol yng ngemau’r Hydref.

Un chwaraewr sydd yn edrych ymlaen at yr her yw clo Cymru, Alun Wyn Jones.

‘‘Rydym yn ddigon ffodus i ddechrau gemau’r Hydref yn erbyn De Affrica.  Mae’r garfan wedi newid llawer ond mae yna nifer o’r chwaraewyr yn y garfan wedi bod yna ers blynyddoedd bellach.  Mi fydd hi’n gêm anodd,’’ meddai Alun Wyn Jones.

Ar ôl arwain y Llewod i fuddugoliaeth yn ei gêm olaf yn Awstralia dros yr haf, bydd Jones yn chwaraewr allweddol i Gymru a fydd yn wynebu ail reng ffyrnig De Affrica sydd yn cynnwys y chwaraewr ifanc Eben Etzebeth a’r chwaraewr profiadol Bakkies Botha.

‘‘Mi fydd chwaraewyr profiadol De Affrica fel Jean de Villiers (Canolwr De Affrica) sydd wedi cyflawni llawer yn y gêm yn cynorthwyo Etzebeth yn ystod y gêm ac yn rhoi hyder iddynt.  Rhaid i ni gofio i beidio â cheisio efelychu’r gorffennol ond mae’n rhaid i ni edrych tuag at y dyfodol,’’ ychwanegodd Jones.