Gareth Bale
Mae rheolwr Real Madrid wedi canmol Gareth Bale wedi i’r Cymro sgorio dwy gôl a chreu dwy gôl arall wrth i’r Los Blancos guro Sevilla 7-3 yn Stadiwm Bernabeu neithiwr.
Hwn oedd y tro cyntaf i’r ymosodwr o Gaerdydd ddechrau gêm gartref i Real Madrid ers iddo gael ei werthu gan Tottenham am £85.3m yr haf yma, y pris drytaf erioed am chwaraewr pêl droed.
Sgoriodd Ronaldo dair gôl yn y fuddugoliaeth sy’n golygu bod Los Blancos bellach yn drydydd yn y gynghrair y tu ôl i Atlético Madrid a Barcelona, sydd ar y brig.
‘Sgiliau gwych’
Ar ôl y gêm nos Fercher dywedodd rheolwr Real Madrid, Carlo Ancelotti: “Fe welodd pawb y Gareth Bale go iawn heno.
“Chwaraeodd e’n dda iawn gan ddangos sgiliau gwych. Mae’n cymryd amser i addasu…ond yn awr does ganddo ddim problemau corfforol ac mae ei hunan hyder yn cynyddu.”
Mae Bale wedi dioddef o anafiadau yn ystod ei ddau fis cyntaf gyda’i glwb newydd ac fe gafodd gêm dawel wrth i Real Madrid golli 2-1 i Barcelona y penwythnos diwethaf.
Er hynny fe gafodd ei enwebu ar restr fer gwobr chwaraewr gorau’r byd – gwobr Ballon d’or- – yn gynharach yr wythnos hon.
Bale yw’r pumed Prydeiniwr i sgorio dros Real Madrid yn y Bernabeu, y lleill yw Laurie Cunningham, Steve McManaman, David Beckham a Michael Owen.