Mike Phillips
Does dim un o ranbarthau Cymru wedi dangos llawer o frwdfrydedd am arwyddo Mike Phillips hyd yn hyn, ar ôl ei ddiswyddiad o Bayonne.
Mae’r mewnwr, sydd yn rhan o garfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref, yn wynebu dyfodol ansicr wedi i’r gemau rhyngwladol orffen, gyda dim awgrym hyd yn hyn pa glybiau sydd â diddordeb ynddo.
Cafodd Phillips ei ddiswyddo gan Bayonne ar ôl mynychu sesiwn dadansoddi fideo o dan ddylanwad alcohol. Nid dyna oedd y drosedd gyntaf ganddo gyda’r clwb.
Ers hynny mae wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y clwb, gan ei fod yn anhapus gyda’r modd y cafodd ei ddiswyddo.
Bydd unrhyw glwb sy’n ei arwyddo’n gorfod derbyn fod Phillips ddim ar gael yn ystod y gemau rhyngwladol hynny – ac yn bur debygol o fod i ffwrdd gyda Chymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad hefyd.
Mae pedwar rhanbarth Cymru eisoes wedi defnyddio’u cyllideb chwaraewyr am y tymor, a gyda Phillips ar arian mawr pan oedd allan yn Ffrainc dyw ei arwyddo ddim yn ymddangos yn opsiwn.
Ond mae yna awgrymiadau y gall Phillips fod y chwaraewr cyntaf i gael cynnig cytundeb canolog gydag Undeb Rygbi Cymru, i’w alluogi i chwarae i un o ranbarthau Cymru am y tro.
Fodd bynnag, mae hyfforddwyr o’r pedwar rhanbarth wedi cilio oddi wrth awgrymiadau y gallen nhw fod â diddordeb mewn arwyddo Phillips, yn ôl WalesOnline.
A dyw hi chwaith ddim yn glir a fyddai’r rhanbarthau yn fodlon derbyn chwaraewr sydd â chytundeb canolog.
Ymateb y clybiau
Mae gan y Scarlets nifer o fewnwyr ifanc yn barod gan gynnwys Rhodri Williams, Gareth Davies ac Aled Davies, ac fe awgrymodd hyfforddwr y Scarlets Simon Easterby fod hynny’n ddigon.
“Mae’r mewnwr yn safle ble rydyn ni’n eithaf cyfforddus ar hyn o bryd,” meddai Easterby. “Mae gennym ni dri yma eisoes ac yn ceisio rhoi amser chwarae iddyn nhw i gyd, felly byddai cael un arall yn ei gwneud hi’n anoddach fyth i reoli.”
Mae gan y Gleision eisoes Lloyd Williams yn ogystal â Lewis Jones, gyda’u cyfarwyddwr rygbi Phil Davies yn dweud fod Phillips yn “chwaraewr gwych, ond mae gennym ni’n mewnwyr.”
Doedd is-hyfforddwr y Gweilch Gruff Rees ddim yn swnio’n rhy frwdfrydig chwaith, gyda’r rhanbarth eisoes â dewis o Tito Tebaldi, Rhys Webb a Tom Habberfield.
“Mae’n annhebygol, ddwedwn i,” meddai Rees. “Dy ni’n gyfforddus efo’n mewnwyr. Wnaiff e ddim ei chael hi’n anodd ffeindio clwb newydd, byddai digon o hyfforddwyr yn hapus i’w gael.”
Roedd prif hyfforddwr y Dreigiau, Lynn Jones – oedd yn gyn-hyfforddwr ar Phillips gyda’r Gweilch – hefyd yn gyndyn ei ateb, gan awgrymu fod angen i Phillips ailddarganfod ei awch. Mae gan y rhanbarth eisoes Richie Rees, Jonathan Evans a Wayne Evans fel mewnwyr.
“Os yw ei awch yr un mor uchel â’i ddisgwyliadau, mae ganddo ddyfodol,” meddai Jones. “Fel arall, dwi’n credu ei fod e’n well petai’n ymddeol.”
“Ond wnawn ni ddim dweud na. Gallwn ni edrych ar y posibilrwydd.”