Neil Taylor
Mae amddiffynnwr Abertawe Neil Taylor yn credu bod modd edrych ar y gêm ddarbi fawr rhwng Caerdydd ac Abertawe’r penwythnos yma fel adlewyrchiad da o bêl-droed Cymru.
Bydd y ddau dîm yn herio’i gilydd am 4 o’r gloch brynhawn dydd Sul yn yr Uwch Gynghrair, y tro cyntaf erioed i’r ddau dîm wynebu’i gilydd ar y lefel yma.
Mae Abertawe yn gorwedd yn y nawfed safle yn y gynghrair ar hyn o bryd, gyda Chaerdydd yn 16eg – ond dim ond dau bwynt o wahaniaeth sydd rhwng y ddau dîm ar hyn o bryd.
Caerdydd oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r ddau dîm gwrdd yn 2011 yn y Bencampwriaeth, pan enillon nhw 1-0 yn Stadiwm y Liberty.
Ond mae Taylor, sydd wedi profi’r gêm yma o’r blaen gydag Abertawe pan oedden nhw yn y Bencampwriaeth, yn ei weld fel dathliad o lwyddiannau pêl-droed yng Nghymru.
‘Diwrnod balch’
“Mae’n ddiwrnod balch i bêl-droed Cymru,” meddai Taylor. “Mae gyda ni ddau dîm yng nghynghrair mwya’r byd.”
“Wrth gwrs fod ‘na dal gystadlu rhyngom ni, ond mae’r ffaith fod hyn yn digwydd yn yr Uwch Gynghrair yn bositif iawn i Gymru ac yn dangos pa mor bell mae’r ddau glwb wedi dod yn y blynyddoedd diwethaf.”
Ond nid gêm arferol fydd hon o bell ffordd, yn ôl Taylor.
“Byddai’n anghywir dweud fod hon yn gêm arferol, achos dydi o ddim,” meddai. “Mae pob gêm yn yr Uwch Gynghrair yn un mawr, ond hon yn fwy nag unrhyw un.
“Mae’n rhaid i ni fod yr un mor gystadleuol â Chaerdydd ac ennill yr ail beli, a gobeithio wedyn y bydd ein pêl-droed ni’n gwneud y tric.”
‘Fel ffeinal cwpan’
Ategodd chwaraewr canol cae Abertawe Leon Britton fod awyrgylch y gemau hyn yn anarferol.
“Mae’n wahanol iawn. Mae fel ffeinal cwpan,” meddai Britton. “Mae’n medru bod yn anodd rheoli’r gêm gan ei bod hi mor wyllt a chyflym ar adegau.
“Ond yn y darbis dwi wedi chwarae ynddyn nhw hyd yn hyn, does dim gormod o drwbl wedi bod. ‘Da chi eisiau un ar ddeg chwaraewr ar y cae er mwyn rhoi’r siawns gorau i chi o ennill.”
Clod i Bellamy a Caulker
Mae capten Abertawe Ashley Williams hefyd wedi rhybuddio y bydd yn rhaid iddynt fod yn wyliadwrus o rai o chwaraewyr Caerdydd ar y penwythnos.
Talodd deyrnged i’w gyd-Gymro Craig Bellamy, gan ddweud ei fod yn rhywun yr oedd wastad wedi’i edmygu a’i fod bellach yn ffrind da iddo.
“Mae’n wych, y person mwyaf proffesiynol dwi wedi gweithio gyda,” meddai Williams. “Mae ganddo ddoniau amlwg ac wedi helpu Caerdydd i gael dechrau da i’r tymor.”
Roedd gan Williams hefyd glod ar gyfer cyn-amddiffynnwr Abertawe a arwyddodd i Gaerdydd dros yr haf o Tottenham Hotspur am £8miliwn, Steven Caulker.
“Roeddwn i wedi synnu pan wnaeth o symud,” meddai Williams. “Ond mae’i weld yn gwneud yn dda iawn. Dwi dal mewn cyswllt ag ef, ac roedden ni’n gwybod ar ôl y tymor y cafodd o yma yn Abertawe y byddai’n mynd ymlaen i gael gyrfa lewyrchus.”
Ond mae Williams i’w weld yn barod am yr her ddydd Sul.
“Dwi wedi ennill, dod yn gyfartal a cholli yn y ddarbi, wedi profi’r cwbl,” meddai. “Mae’n brifo pan ydych chi’n colli. Ond pan ‘dy chi’n ennill chi yw brenin y ddinas … wel, o leiaf dinas eich hunain.
“Mae pawb yn hollol ymwybodol o ba mor bwysig yw hyn i bawb yn y ddinas – hyd yn oed chwaraewr newydd Abertawe.”
Angen amynedd
Ac fe fydd rhaid i Gaerdydd fod yn amyneddgar os ydyn nhw am gipio canlyniad yn erbyn yr Elyrch, yn ôl chwaraewr canol cae’r Adar Gleision Peter Whittingham.
Mae ganddo yntau brofiadau o’r ddarbi o gyfnod Caerdydd yn y Bencampwriaeth, ac mae’n gyfarwydd iawn gyda’r ffordd sydd yn rhaid ei chwarae yn erbyn Abertawe.
“Maen nhw’n pasio’r bêl o gwmpas lot ac fe fydd yna adegau ar y penwythnos ble bydd raid i ni fod yn amyneddgar,” meddai Whittingham.
“Dy ni’n gwybod fod Abertawe’n cael llawer o feddiant ond mae’n rhaid i ni bwyllo a chadw’n gryno a disgybledig.
“A phan gawn ni’r bêl fe allwn ni gymryd mantais ohonyn nhw.”
Ac fe fydd y fantais o chwarae gartref yn siŵr o fod yn ffactor allweddol, yn ôl Whittingham, a ddefnyddiodd esiampl o fuddugoliaeth Caerdydd dros Man City fis yn ôl.
“Mae’n sicr yn medru bod yn ffactor fawr,” meddai. “Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod enfawr ac un ‘da ni’n gobeithio’i ennill.”