Chris Coleman
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman bellach yn un o’r ffefrynnau i fod yn rheolwr nesaf Crystal Palace, wedi i Ian Holloway adael y swydd yr wythnos diwethaf.

Mae nifer o fwcis wedi lleihau’r ods ar Coleman i fod y rheolwr nesaf, o 20/1 i chyn lleied ag 11/8, yn dilyn adroddiadau bod diddordeb Palace yn Tony Pulis wedi cilio.

Roedd y Cymro Pulis yn rheolwr ar Stoke am saith mlynedd cyn gadael ei swydd yr haf yma, ac yn cael ei ystyried yn geffyl blaen am y swydd.

Gadawodd Holloway y clwb ar ôl iddyn nhw golli 4-1 i Fulham wythnos ddiwethaf, gyda’r clwb bellach ar waelod yr Uwch Gynghrair gyda dim ond un fuddugoliaeth y tymor hwn.

Mae’r gŵr o Ogledd Iwerddon, Martin O’Neill, oedd yn gyn-reolwr ar Sunderland ag Aston Villa, hefyd yn un o’r ffefrynnau.

Ac mae’r Guardian eisoes yn honni fod Crystal Palace wedi cysylltu â Pulis ag O’Neill ynglŷn â’r swydd, ond fod cyflog yn debygol o fod yn broblem wrth geisio denu’r un ohonynt.

Ticio’r bocsys

Ond mae’n ymddangos fod Coleman, sydd eto i arwyddo cytundeb newydd gyda Chymru, wedi ymddangos fel posibilrwydd arall i Crystal Palace.

Chwaraeodd Coleman bron i 200 o gemau i Palace yn y 1990au, ac roedd yn gapten ar y clwb am gyfnod.

Ac mae’n ymddangos fod Coleman, oedd yn rheolwr ar Fulham am bedair blynedd, yn cwrdd â nifer o’r meini prawf a osododd cyd-gadeirydd y clwb, Steve Parish, ar gyfer y rheolwr newydd.

“Dwi’n meddwl fod profiad o’r Uwch Gynghrair yn fantais,” meddai Parish.

“Efallai rhywun ifanc, rhywun fydd y chwaraewyr yn ei edmygu ac a fydd yn ennyn parch yn yr ystafell newid.

“A chysylltiad i’r clwb – dyw hynny byth yn brifo. Yn y bôn rydym ni angen rhywun sy’n credu y gallen nhw ein hatal ni rhag cwympo o’r adran.”

Dyfodol Coleman yn y fantol

Mae dyfodol Coleman gyda Chymru dal yn y fantol, gyda’i gytundeb yn dod i ben wedi’r gêm gyfeillgar yn erbyn y Ffindir fis Tachwedd.

Roedd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, wedi awgrymu y bydden nhw’n asesu gemau ymgyrch Cwpan y Byd ar ôl iddyn nhw orffen y mis yma, cyn cynnig cytundeb newydd i Coleman.

Ac fe wnaeth Coleman ei hun awgrymu nad oedd ef o reidrwydd am arwyddo cytundeb newydd hyd yn oed petai un yn cael ei gynnig, a’i fod angen ystyried y cam nesaf i’w hun hefyd.