Sam Warburton
Mae capten Cymru Sam Warburton wedi galw ar ei dîm i geisio efelychu tîm Lloegr o 2003 a enillodd Gwpan y Byd, wrth iddyn nhw baratoi am gemau’r Hydref.
Mae Cymru’n wynebu De Affrica yn eu gêm agoriadol ddydd Sadwrn nesaf, 9 Tachwedd, yn y cyntaf o’u pedair gêm.
Ac mae Warburton wedi galw ar Gymru i ddechrau trechu cewri hemisffer y de yn gyson o hyn allan, fel ag y gwnaeth tîm Lloegr flynyddoedd yn ôl.
Angen cymryd y cam nesaf
“Mae ‘di cyrraedd y pwynt nawr ble rydym ni’n gwneud yn dda yn hemisffer y gogledd, a dwi wastad yn edrych ar dîm Lloegr o 2003 wnaeth, mewn gwirionedd, chwarae timau hemisffer y de a’u trechu nhw i gyd,” meddai Warburton wrth y BBC.
“Fel grŵp o chwaraewyr dyna yw’r cam nesaf i ni. Gallwn ni dal wneud yn dda yn y Chwe Gwlad achos hynny yw’r bara menyn.
“Ond mae’n dod i’r pwynt nawr ble mae’n rhaid i ni ddechrau perfformio yn yr hydref a threchu’r timau yma o hemisffer y de.”
Gall Warburton a’i gyd-chwaraewyr eisoes deimlo’n hyderus fod hynny o fewn eu cyrraedd, wedi i bymtheg ohonynt fod yn rhan o garfan y Llewod a sicrhaodd buddugoliaeth ar daith yn Awstralia’r haf yma.
Bydd Cymru’n gorffen ymgyrch yr Hydref yn erbyn Awstralia, gyda dwy gêm yn erbyn yr Ariannin a Tonga i ddod hefyd.
Tasg anodd
Ond dyw record Cymru ddim yn dda yn erbyn yr un o’r ddau dîm fwyaf y bydden nhw’n herio yn ystod y mis nesaf.
Dim ond unwaith mewn 26 ymgais y maen nhw wedi ennill yn erbyn De Affrica – y gêm agoriadol iddyn nhw chwarae yn Stadiwm y Mileniwm fel mae’n digwydd.
Ac maen nhw wedi colli i Awstralia yn eu wyth gêm ddiwethaf, gan gynnwys y gêm trydydd safle yng Nghwpan y Byd 2011 ac ar eu taith yno yn 2012.
Mae Jamie Roberts, Alex Cuthbert a Matthew Rees yn absennol gydag anafiadau ar hyn o bryd, ond heblaw am hynny mae gan Warren Gatland garfan lawn i ddewis ohoni ar gyfer y pedair gêm.
Ac mae Warburton ei hun yn hyderus o ymgyrch dda hefyd.
“Y tro diwethaf chwaraeon ni yma oedd yn erbyn Lloegr i ennill y Chwe Gwlad, ac mae’r bechgyn oedd gyda’r Llewod wedi profi llwyddiant yr haf yma sy’n hwb mawr i ni,” meddai.
“Felly dy ni mor hyderus ag erioed wrth fynd mewn i gemau’r hydref a dwi’n obeithiol y gwnawn ni’n dda.”