Mae Gareth Bale wedi’i enwi ar restr fer gwobr FIFA, Ballon D’Or, sydd yn gwobrwyo’r pêl-droediwr gorau yn y byd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Aelodau o Bwyllgor Pêl-droed FIFA a newyddiadurwyr o France Football oedd yn gyfrifol am ddewis yr enwau, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Zurich ar Ionawr 13, 2014.

Ond fe fydd Bale yn wynebu her fawr wrth geisio am y wobr, gyda’r enillydd am y pedair blynedd diwethaf, Lionel Messi o’r Ariannin, yn un o’r ffefrynnau unwaith eto.

Bale yw’r unig Brydeiniwr ar y rhestr y flwyddyn hon, a’r Cymro cyntaf i fod ar y rhestr fer ers Ryan Giggs yn 2009. Mae eisoes wedi ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn Uwch Gynghrair Lloegr, Chwaraewr y Flwyddyn yr Awduron Pêl-droed, a Chwaraewr y Flwyddyn Cymru am y trydydd blwyddyn yn olynol eleni.

Symudodd Bale i Real Madrid am swm record byd o £85m dros yr haf, ar ôl tymor disglair tu hwnt gyda Tottenham Hotspur. Ond mae anafiadau wedi cyfyngu’i amser ar y cae hyd yn hyn, ac nid yw eto wedi dangos ei ddoniau’n llawn dros ei glwb newydd.

Sêr Bayern a Barca yn amlwg

Mae’r rhestr yn cynnwys chwe chwaraewr o Bayern Munich, a enillodd Gwpan Ewrop y flwyddyn yma, yn ogystal â phedwar o Barcelona – ond dim ond un arall, Cristiano Ronaldo, o Real Madrid.

Mae pum chwaraewr o Uwch Gynghrair Lloegr ar y rhestr fer – Robin van Persie, Yaya Toure, Luis Suarez, Eden Hazard a Mesut Özil.

Ac mae’r rhestr fer ar gyfer rheolwr y flwyddyn hefyd yn cynnwys enwau o’r Uwch Gynghrair, gydag Arsene Wenger o Arsenal, Jose Mourinho yn Chelsea, a chyn-reolwr Manchester United Alex Ferguson ymysg yr enwau.

Rhestr fer chwaraewr gwrywaidd y flwyddyn 2013

Gareth Bale (Real Madrid/Cymru); Edinson Cavani (Paris St-Germain/Uruguay); Radamel Falcao (Monaco/Colombia); Eden Hazard (Chelsea/Belg); Zlatan Ibrahimovic (Paris St-Germain/Sweden); Andres Iniesta (Barcelona/Sbaen); Philipp Lahm (Bayern Munich/Almaen); Robert Lewandowski (Borussia Dortmund/Gwlad Pwyl); Lionel Messi (Barcelona/Ariannin); Thomas Muller (Bayern Munich/Almaen); Manuel Neuer (Bayern Munich/Almaen); Neymar (Barcelona/Brasil); Mesut Ozil (Arsenal/Yr Almaen); Andrea Pirlo (Juventus/Yr Eidal); Franck Ribery (Bayern Munich/Ffrainc); Arjen Robben (Bayern Munich/Yr Iseldiroedd); Cristiano Ronaldo (Real Madrid/Portiwgal); Bastian Schweinsteiger (Bayern Munich/Yr Almaen); Luis Suarez (Lerpwl/Uruguay); Thiago Silva (Paris St-Germain/Brasil); Yaya Toure (Manchester City/Traeth Ifori); Robin Van Persie (Manchester United/Yr Iseldiroedd); Xavi (Barcelona/Sbaen).