Ein gohebydd F1, Phil Kynaston, sy’n bwrw golwg dros benwythnos nodedig i yrrwr Red Bull Sebastian Vettel wrth iddo gipio Pencampwriaeth y Byd F1 ar ôl buddugoliaeth yn Grand Prix India.
Sebastien Vettel, rhif un Fformiwla 1
Rhagbrawf
Daeth syndod mwyaf dydd Sadwrn y rhagbrofion wrth i Romain Grosjean fethu a’i gwneud hi pasio’r sesiwn gyntaf, ar ôl dim ond gorffen ei lap yn 17eg cyflymaf wrth geisio arbed teiars ar gyfer y ras.
Ar ôl cyfnod mor gryf yn ddiweddar felly, yn anffodus iddo ef ni chafodd gyfle i barhau â hynny yn y ras yma.
Vettel cychwynnodd yn gyntaf gyda Nico Rosberg, Lewis Hamilton a Mark Webber yn ei ddilyn ar y grid.
Y ras
Gyda’r gwahaniaeth rhwng cyfansoddiad y teiars a oedd wedi eu dewis ar gyfer y penwythnos yma (y teiars canolig a’r teiars meddal), byddai cyfnod cyntaf y ras yn un diddorol.
Fyddai’r teiars meddal (cyflymach) ddim yn para’n hir, tra byddai’r teiars canolig (arafach) yn gallu mynd yn bellach yn ystod y ras.
Disgwyliai llawer felly y byddai Webber yn arwain y ras yn gynnar iawn wrth i eraill fynd i’r ‘pits’.
Ond fe aeth pethau’n wahanol wrth i Webber, Raikkonen ac Alonso wrthdaro ar y dechrau, gydag Alonso’n ei chael hi’n anodd drwy gydol y ras a gorffen yn 11eg ar ôl diwrnod hir.
Pitiodd Vettel hyd yn oed yn gynharach na’r disgwyl ar ddiwedd yr 2il lap, cyn gweithio’i ffordd yn wych i fyny trwy’r pac i fod yn 3ydd erbyn lap 13!
Trafferth i Webber
Roedd hi’n edrych yn ganlyniad 1-2 diogel i Red Bull tan Lap 40. Cafodd Webber, a oedd yn yr ail safle, neges dros ei radio i dynnu drosodd mewn man diogel gan fod y tîm wedi gweld problem ‘alternator’ yn y data o’r wal-pit.
Yn eu blynyddoedd diweddar o lwyddiant ysgubol, yr ‘alternator’ yw un o’r rhannau sydd wedi bod yn drafferthus i’r tîm.
A hyd yn oed gyda Vettel yn rasio i geisio selio’r bencampwriaeth, roedd y tîm ar y radio iddo yn gofyn iddo beidio â gyrru’n rhy galed a chymryd risgiau – hyd yn oed yn gofyn iddo beidio â defnyddio ei fotel diod!
Wrth i’r ras dynnu tua’i derfyn, roedd Raikkonen yn cael trafferthion ar ôl defnyddio’r un set o deiars am dros 50 o lapiau! Ar y pryd roedd o yn y 5ed safle, gyda Hamilton a Perez tu ôl iddo.
Ceisiodd Hamilton ei basio yn y parth DRS (Drag Reduction System – ffordd o agor slot yn yr aden ôl i wneud y car yn gyflymach mewn llinellau syth), ond cafodd ei drechu gan Perez a wnaeth symudiad gwych i basio’r ddau ohonynt!
Vettel yn bencampwr
Gorffennodd Vettel yn gyntaf i ddod yn Bencampwr F1 2013, gyda Rosberg yn 2il yn y ras a Grosjean yn 3ydd – canlyniad cryf iawn o ystyried ble wnaeth o ddechrau ar y grid. Perez oedd yn bumed, ei gydradd canlyniad gorau i McLaren tymor yma.
I wneud cyrhaeddiad Vettel yn fwy nodedig, ychydig iawn sydd wedi ennill pedair pencampwriaeth yn olynol, a Vettel yw’r cyntaf o’r rheiny i ennill ei bedwar cyntaf i gyd yn olynol.
Red Bull hefyd gipiodd pencampwriaeth y timau ddydd Sul, er mai dim ond Vettel orffennodd y ras.
Roedd yna olygfeydd gwych i’r cefnogwyr ar y lap arafu wrth i Vettel ddathlu gan wneud ‘donuts’ ar y trac, ac wedyn yn dod allan o’r car (Hungry Heidi, fel o wedi ei henwi!) a dechrau penlinio wrth ei ymyl mewn diolch!
Roedd hyn yn argyhoeddi’n dda gan y cefnogwyr o gofio’r bwiau mae o wedi ei dderbyn yn ddiweddar.
Ond roedd rhaid i’r rheolwyr sbwylio’r hwyl wrth roi dirwy o €25,000 iddo am y canlynol:
“Article 43.3 of the FIA Formula One Sporting Regulations: Failure to proceed directly from the circuit to the post-race parc ferme without delay.”
Credaf ei bod hi’n holl bwysig (ac yn adio mwy o gymeriad i’r digwyddiad) fod gyrwyr yn dathlu ar y trac ar ôl ennill.
Abu Dhabi fydd y ras nesaf mewn ychydig ddyddiau.