Mike Phillips dros Gymru
Mae Mike Phillips wedi cyhoeddi ei fod am gymryd camau cyfreithiol yn erbyn clwb Bayonne, wedi iddo gael ei ddiswyddo ganddyn nhw.

Yr honiad ydi iddo fo, a dau aelod arall o’r clwb, fynd i sesiwn hyfforddi o dan ddylanwad alcohol.

Ar ôl cyfarfod swyddogion Bayonne cafodd wybod eu bod am ddirwyn ei gytundeb i ben – er mai wedi’u gwahardd yn unig y mae Dwayne Haare a Stephen Brett.

Fe wnaeth Phillips ymuno â Bayonne o glwb y Gweilch ddwy flynedd yn ôl ac roedd ei gytundeb i fod i barhau tan Fehefin y flwyddyn nesaf.

Mae’r mewnwr ar hyn o bryd yn hyfforddi gyda Chymru ar gyfer eu Gem Ryngwaldol yr Hydref yn erbyn De Affrica ar Dachwedd 9. Ond mae amheuon bellach os fydd Warren Gatland yn dewis y mewnwr i fod yn rhan o’r garfan.