James Hook
oedd un o’r unig Gymry oddi cartref i serennu dros y penwythnos, gan gicio 26 o bwyntiau wrth i Perpignan drechu Bordeaux 31-20 – gyda Luke Charteris hefyd yn ymddangos o’r fainc.

Roedd Hook yn ôl yn chwarae fel cefnwr y penwythnos yma, ac fe drosodd wyth cic gosb ac un trosiad o gais Sofiane Guitoune i sicrhau buddugoliaeth i’w dîm, er i’r gwrthwynebwyr lwyddo i sgorio tair cais.

Ac fe fydd yn gobeithio fod ei berfformiadau gwych dros yr wythnosau diwethaf i’w glwb yn ddigon i orfodi Gatland i’w ystyried gyda Chymru, ar ôl iddo gael ei enwi yn y garfan ar gyfer gemau’r Hydref yr wythnos diwethaf.

Doedd Lee Byrne na Dan Lydiate wedi gwneud ymddangosiad i’w clybiau yn Ffrainc y penwythnos yma – a hynny bellach ddim yn opsiwn i Mike Phillips, wrth gwrs, ac yntau wedi’i ddiswyddo o Bayonne.

Yr unig Gymro arall ymddangosodd yn y Top 14 oedd Aled Brew – ac fe gafodd ei dîm Biarritz grasfa gan Castres o 39-0!

Absennol

Roedd rhai o’r Cymry hefyd yn absennol i’w clybiau yn Uwch Gynghrair Lloegr hefyd, gan gynnwys George North, Martyn Thomas ac Andy Fenby.

Phil Dollman oedd yr unig yn i groesi am gais dros y penwythnos, gan gyfrannu un o chwech cais Caerwysg wrth iddyn nhw chwalu Caerwrangon 40-6, gyda Tom James yn dod oddi ar y fainc.

Doedd cyfraniad Owen Williams ddim yn ddigon i Gaerlŷr yn anffodus wrth iddyn nhw golli 22-12 i Wasps Llundain, gyda’r maswr yn trosi pedair cic gosb.

Colli oedd hanes pedwar Cymro gyda Sale hefyd, gydag Eifion Lewis-Roberts, Dwayne Peel a Jonathan Mills i gyd yn dechrau a Marc Jones ar y fainc wrth i Harlequins ennill 24-3.

Paul James oedd yr unig Gymro i ddechrau i Gaerfaddon wrth iddyn nhw gael buddugoliaeth agos o 15-13 yn erbyn Caerloyw, gyda Gavin Henson a Martin Roberts hefyd ar y fainc, tra bod Will James yn eilydd i’r gwrthwynebwyr.

Ac er gwaethaf perfformiadau da ganddo yng Nghwpan Amlin dros y bythefnos diwethaf, lle ar y fainc yn unig oedd i Darren Allinson, wrth i Wyddelod Llundain golli i Newcastle, er bod Ian Gough yn ôl.

Seren yr wythnos

James Hook – yr unig un wnaeth gyfraniad allweddol i sicrhau buddugoliaeth i’w dîm.

Siom yr wythnos

Mike Phillips – digon wedi cael penwythnos i’w anghofio, ond dim ond un sydd wedi cael ei ddiswyddo!