Os mai hwn oedd prawf mawr cyntaf Gareth Bale yng nghrys gwyn Real Madrid, mae ganddo dipyn o ffordd i fynd cyn iddo ddarbwyllo cefnogwyr Los Blancos.
Fe ddechreuodd yr El Clasico wrth i Real herio’u gelynion pennaf Barcelona, ond colli 2-1 oedd yr hanes yn y Nou Camp, gyda Bale yn methu a chreu llawer o argraff a chael ei eilyddio ar yr awr.
Mae’n amlwg nad yw wedi cyrraedd ei lawn ffitrwydd eto – ond wrth gymryd i’r maes gyda Messi a Ronaldo am y tro cyntaf erioed, doedd hi ddim yn ymddangos fel pe bai Bale yn yr un categori a’r ddau arall eto fel un o sêr gorau’r byd.
Ar y llaw arall, rhoddodd Wayne Hennessey help llaw fawr i’w glwb dros y penwythnos, wrth i Yeovil godi oddi ar waelod tabl y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros Notts Forest.
Hennessey yn arbed
Gyda Yeovil yn arwain 1-0 yn yr hanner cyntaf, arbedodd Hennessey gic o’r smotyn gan Simon Cox fyddai wedi unioni’r sgôr, cyn arbed ail ymdrech wrth i Forest sgramblo i geisio sgorio.
Ac fe wnaeth nifer o arbediadau pwysig eraill yn ystod y gêm hefyd wrth helpu Yeovil i ennill 3-1 – ar ôl i’r clwb gadarnhau y bydd yn parhau ar fenthyg gyda nhw nes y 17eg o Dachwedd.
Creodd Aaron Ramsey ail gôl Arsenal i selio buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Crystal Palace wrth godi pas hyfryd i lwybr Giroud – Danny Gabbidon oedd yr unig Gymro ymysg y gwrthwynebwyr.
Roedd hi’n ddiwrnod da i amddiffynwyr Abertawe hefyd, wrth i Ashley Williams ddychwelyd o anaf, gydag yntau a Neil Taylor yn rhan o’r tîm gafodd gêm gyfartal 0-0 yn West Ham.
Gêm i’w anghofio
Ar y llaw arall, cafodd seren yr wythnos ddiwethaf Paul Dummett gêm i’w anghofio i Newcastle. Dechreuodd yn y ddarbi fawr yn erbyn Sunderland yng nghanol yr amddiffyn ond roedd ar fai am y gôl gyntaf, ac yn anghyfforddus drwy gydol y gêm wrth iddyn nhw golli 2-1.
Siomedig oedd prynhawn Boaz Myhill hefyd wrth iddo ildio pedair gôl wrth i West Brom golli i Lerpwl – ble daeth Joe Allen oddi ar y fainc am bedair munud wrth ddychwelyd o’i anaf.
Oddi ar y fainc ddaeth Craig Bellamy hefyd yn erbyn ei hen glwb Norwich, wrth i Gaerdydd frwydro am gêm gyfartal 0-0.
Creodd Sam Vokes gôl i Burnley yn eu buddugoliaeth yn erbyn QPR sy’n eu cadw nhw ar frig y Bencampwriaeth.
Ac fe chwaraeodd Jack Collison, Rhoys Wiggins, Simon Church, Andy King, Joel Lynch, Chris Gunter, Joe Ledley a Sam Ricketts gemau llawn i’w timau nhw, gydag ychydig funudau oddi ar y fainc i Steve Morison a Hal Robson-Kanu.
Seren yr wythnos
Wayne Hennessey – arbed cic o’r smotyn a llawer mwy wrth i Yeovil gael buddugoliaeth werthfawr.
Siom yr wythnos
Gareth Bale – methu â chreu argraff yn ei gêm fwyaf i Real hyd yn hyn.