Mike Phillips yn lifrau'r Gweilch
Mae cytundeb Mike Phillips, mewnwr Cymru wedi cael ei ddiddymu gan Baynne yn ôl adroddiadau gan y BBC a AFP, asiantaeth newyddion o Ffrainc.

Honnir ei fod wedi dod i sesiwn hyfforddi dan ddylwanwad alcohol ac ar ôl cyfarfod swyddogion Bayonne cafodd wybod eu bod am ddirwyn ei gytundeb i ben.

Fe wnaeth Phillips ymuno â Bayonne o glwb y Gweilch ddwy flynedd yn ôl ac roedd ei gytundeb i fod i barhau tan Mehefin y flwyddyn nesaf.

Fe waneth Phillips ymddiheuro i gefnogwyr Bayonne ar ei wefan dydd Iau diwethaf ond dyma’r eildro iddo gael ei wahardd gan y clwb am gamymddwyn.

Cafodd ei wahardd hefyd gan Gymru yn 2011 wedi digwyddiad yng nghanol Caerdydd.