Ar Faes yr Eisteddfod heddiw cafwyd lawnsiad swyddogol cystadleuaeth i nodi a chlodfori rhai o luniau mwyaf eiconig a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg dros y chwarter canrif ddiwethaf.
Cafodd y lluniau eu tynnu gan rai o brif ffotograffwyr Cymru ac maen nhw’n dangos cymeriadau a digwyddiadau nodedig dros y cyfnod ers lansio’r cylchgrawn yn 1988.
Mae’r dewis yn seiliedig ar farn y bobl, gyda’r rhestr lluniau a modd pleidleisio ar gael drwy safle www.gwylgolwg.com
Bydd arddangosfa o’r lluniau sydd ar y rhestr yng Ngŵyl Golwg yn Llanbedr Pont Steffan ar ddydd Sadwrn 7 Medi, gydag enillydd y bleidlais gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi yn ystod y dydd.
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.
Yn fy marn gonest i, tydi tudalen flaen y cylchgrawn wythnosol ddim digon dychmygus. Sbiwch ar gylchgronau eraill, hefyd mae gan The Independent drac record o dudalennau blaen dychmygus.
Duwcs, efallai y bydda mymryn o ddychymyg a menter yn hwb i’r cylchrediad!
Mae tudalen flaen y cylchgrawn Almaeneg Der Spiegel weithiau yn ddifyr iawn.