Bydd y cogydd Bryn Williams yn cael urddo ar faes yr Eisteddfod heddiw a dywedodd wrth golwg360 bod derbyn y llythyr yn sioc iddo.

Bydd Bryn Williams yn cael ei urddo i Orsedd y Beirdd a bydd yn derbyn y wisg las.

Dywedodd Bryn Williams: “Dw i ddim yn un sy’n dod i’r Eisteddfod fel arfer. A dweud y gwir, pryd ges i’r llythyr, ro’n i’n meddwl bo nhw wedi cael y Bryn Williams anghywir!

“Ond mi fydd o’n ddiwrnod grêt i’r teulu i gyd ac mae hi’n wych gallu dangos i Sharleen, fy nghariad, sut le ydi Cymru a sut bobl ydyn ni. Dim ots faint dw i wedi trio esbonio, dod i’r Eisteddfod a dangos iddi yw’r ffordd orau.”

Roedd 28 o bobl yn cael eu hurddo heddiw, yn cynnwys y sylwebydd pêl-droed, Malcolm Allen a phrif leisydd Edward H Dafis, Cleif Harpwood.