Mae Darganfod Sir Gâr wedi gwerthu dros £5,000 o archebion llety ar gyfer wythnos yr Eisteddfod y flwyddyn nesa’.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor eu bod nhw’n llongyfarch trigolion Sir Ddinbych am eu llwyddiant eleni a’u bod nhw am barhau i weithio’n galed i i baratoi at y digwyddiad flwyddyn nesaf drwy weithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol a’r pwyllgor gwaith i sicrhau digwyddiad llwyddiannus.

Dywedodd Hywel Edwards, trefnydd yr Eisteddfod, heddiw bod pwyllgor gwaith Eisteddfod Sir Gâr eisoes wedi  casglu £130,000 o’r £300,000 mae’r gymuned leol yn ei hel at gynnal yr Eisteddfod pob blwyddyn a’i fod yn ffyddiog y bydd yr arian yn cael ei gasglu mewn da bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Davies o Gyngor Sir Gaerfyrddin: “Fel aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Eisteddfod Genedlaethol 2014, roeddwn wrth fy modd yn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych.

“Roedd yn ddiwrnod gwych ac edrychaf ymlaen at groesawu pawb i Sir Gaerfyrddin y flwyddyn nesaf pan fydd yr Eisteddfod yn dychwelyd i Lanelli.”