Mae Manon George o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud bod angen newid y cwricwlwm addysg er mwyn newid agweddau pobol ifanc at ddatganoli.

Roedd hi’n siarad mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod heddiw yn dilyn cyhoeddiad adroddiad a oedd yn edrych ar agweddau pobl ifanc tuag at ddatganoli yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad wedi dod i’r casgliad bod dim llawer o wahaniaeth rhwng agweddau pobl hyn a phobl ifanc tuag at ddatganoli.

“Mae diffyg diddordeb a dealltwriaeth am ddatganoli ymysg pobl ifanc. Mae angen dysgu am hanes a gwleidyddiaeth fodern mewn ysgolion er mwyn newid hynny.

“Maen nhw’n dysgu am y Tuduraid a Harri VIII mewn ysgolion ond mae angen newid hynny a dysgu am hanes modern.”

Darganfyddo’r adroddiad hefyd bod y rhan fwyaf o’r bobl yn cefnogi datganoli a bod y rhai sy’n gwrthwynebu yn y lleiafrif o un allan o bump o’r boblogaeth.