Tîm Sir Gâr oedd yn fuddugol yn ffeinal Ymryson y Beirdd yn y Babell Lên yn Sir Ddinbych heddiw.
Roedd tîm Sir Gâr – sef Ceri Wyn Jones, Emyr Davies, Karen Owen ac Eurig Salisbury – yn cystadlu yn erbyn timau Meirionnydd a Morgannwg mewn cystadleuaeth agos iawn.
Sir Gâr aeth â hi gyda 47.5 o bwyntiau, tra bod Meirionnydd a Morgannwg wedi sgorio 46 yr un.