Tynnu lluniau enillwyr cenedlaethol fu swyddogaeth y ffotograffydd, Tegwyn Roberts, ers degawdau ar faes y brifwyl.
Ond heddiw, roedd y ffotograffydd o Ddolanog ym Mhowys, ond sydd bellach yn byw yn Llanbedr Goch yn Sir Fôn, yn cael ei urddo i’r wisg las yng Ngorsedd y Beirdd. A phobol eraill oedd yn tynnu lluniau ohono fo.
Mae wedi bod yn ffotograffydd i bapur newydd Y Cymro, yn ogystal â thynnu lluniau o brif wyliau a digwyddiadau Cymru.
Ei enw yng Ngorsedd yw Tecs o Faldwyn.