Mae’r cynnwrf a’r disgwyliadau ynglyn a gig ola’ Edward H Dafis i weld yn cyffwrdd a phob math o agweddau o’r Eisteddfod heddiw.
Tra bod y profion sain yn digwydd ar y llwyfan perfformio yn hwyr fore heddiw, roedd trefnwyr y brifwyl yn paratoi at gynnal cynhadledd i’r wasg er mwyn lleddfu sïon a gwneud rhai newidiadau i’r trefniadau:
* Oherwydd eu bod yn disgwyl “miloedd” o bobol i dyrru i’r maes ar Fferm Kilford, Dinbych, erbyn perfformiad ola’ un y grwp roc, mae’r byrddau picnic wedi eu symud o’r ardal fwyd;
* Oherwydd y gallai swn o’r perfformiad amharu ar dair cystadleuaeth ar lwyfan y Pafiliwn, mae amser dechrau wedi ei fwrw ymlaen o 6 i 8;
* Yn y Pafiliwn, mae’r corau cymysg yn cystadlu am 5.20h, mae cystadleuaethau’r partion llefaru a’r corau alaw werin yn dechrau am 7.20yh.
* Ond fe fydd yn rhaid i’r corau cerdd dant, sy’n canu detholiad o awdl ‘Llanw a Thrai’ gan Ieuan Wyn, fwrw iddi i gyfeiliant eu telynau tra bydd Edward H ar y llwyfan perfformio yn drymio ‘Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw’.
Geiriau prifardd ar grysau-T
Mae Dewi Pws, un o aelodau Edward H, wedi bod yn cerdded y Maes heddiw mewn crys-T sydd wedi’i gynhyrchu’n arbennig er mwyn nodi’r achlysur.
Ar y crys y mae’r geiriau “… a gwelais y gig ola'” o waith y Prifardd Idris Reynolds, y prifardd cadeiriol sydd hefyd yn athro barddol i Dewi Pws ac yn gyd-aelod yn nhîm talwrn Crannog.