Meri Huws yn y cyfarfod
Mae angen gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn rhan o bob bil newydd gan Lywodraeth y Cynulliad.

Dyna neges Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wrth gyhoeddi ei hadroddiad blynyddol cynta’ ar faes yr Eisteddfod.

Heb hynny, fe fyddai’r iaith yn aros yn beth ymylol yn cael ei hystyried ar ddiwedd bob proses.

Fe ddywedodd hefyd ei bod hi’n falch o’r safonau iaith a greodd ei swyddfa ond a gafodd eu gwrthod gan y Llywodraeth.

‘Dim digon da’

Yn ôl Meri Huws, mae gweision sifil a staff cyfreithiol y Llywodraeth yn defnyddio esgusion tros beidio â deddfu ym maes yr iaith.

“Mae’n rhaid i’r Gymraeg fod yn weladwy ym mhob darn o bolisi,” meddai, gan ddweud ei bod yn “loes calon” iddi nad oedd y Gymraeg ar hyn o bryd yn rhan o’r Bil Gofal Cymdeithasol newydd.

Doedd hi ddim yn ddigon da i ddweud y byddai sylw i’r iaith mewn dogfennau eraill i gefnogi deddfau – roedd rhaid iddyn nhw fod ar wyneb y Bil.

Am nad oedd yr iaith yn rhan o Ddeddf Iechyd Meddwl, meddai wedyn, roedd gweision sifil yn ei hanwybyddu wrth adolygu’r ddeddf.

Safonau

Wrth drafod y safonau iaith a phenderfyniad y Llywodraeth i’w gwrthod, fe ddywedodd eu bod nhw wedi gosod pren mesur i gymharu’r hyn a ddaw gan y Llywodraeth ei hunan.

Roedd hi’n pryderu y gallai’r broses newydd arwain at ddryswch wrth i safonau newydd fod yn berthnasol i gynghorau lleol ond nid i fyrddau iechyd fydd yn cydweithio â nhw.

Roedd Meri Huws yn cydnabod bod y flwyddyn gynta’ wedi bod yn anodd weithiau ond yn mynnu y byddai’n parhau i gynnig cyngor “heriol” i’r Llywodraeth.

Stori fideo – ‘Cyfleon wedi colli’