Bu 15,754 o ymwelwyr trwy’r giatiau’r Eisteddfod Genedlaethol heddiw.

Dyna’r nifer lleiaf i ymweld â’r Eisteddfod ar y dydd Llun ers Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy yn 2010.

Dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards ei fod yn gobeithio y byddai’r tywydd yn gwella o heddiw ymlaen.

Roedd glaw trwm ar adegau yn ardal y Brifwyl ddoe a heddiw.
Mae 50,559 o bobl wedi ymweld â’r Eisteddfod ers nos Wener. Dyma’r nifer isaf yn ystod y cyfnod yma yn yr wythnos ers Eisteddfod Sir Fflint yn 2007.