Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw fe wnaeth Prifysgol Abertawe lansio prosiect newydd i agor cwr y llen ar fywydau rhai o’r milwyr fu’n brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd y flwyddyn nesaf yn gweld canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr a’r tymor diwethaf, cafodd y myfyrwyr gyfle i ddilyn modiwl a oedd yn eu galluogi i dyrchu trwy dystiolaeth o’r cyfnod a’i gyflwyno ar ffurf adnodd newydd i’r cyhoedd.
Cafodd y myfyrwyr gyfle i bori trwy gasgliadau personol pedwar teulu fel casgliad y Parchedig Alun Evans. Gadawodd tad Alun Evans Goleg Diwinyddol Bala-Bangor ym mis Hydref 1914 er mwyn cludo’r milwyr oedd wedi eu hanafu i’r canolfannau meddygol fel aelod o’r Royal Army Medical Corps.
Fel rhan o’r cwrs, bu’r myfyrwyr wrthi’n ddygn yn digido dros 250 o eitemau gan gynnwys llythyrau, ffotograffau a dyddiaduron – a heddiw cafodd y cyfan eu cyhoeddi ar wefan Prifysgol Abertawe.
Mae’r Brifysgol yn gobeithio y bydd y deunydd o ddiddordeb i gynulleidfaoedd eang o fyfyrwyr Lefel A ag addysg uwch sy’n astudio’r Rhyfel Byd Cyntaf i aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno ehangu eu dealltwriaeth o effaith y rhyfel ar lefel bersonol.
Meddai Alys Rosser, un o’r myfyrwyr sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect: ‘‘Roedd y profiad o weithio ar y prosiect yn un cyffrous a chawsom gyfle i ddelio gyda ffynonellau sydd heb eu defnyddio o’r blaen megis llythyrau a chardiau post.
“Bwriad y prosiect oedd defnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd er mwyn dod o hyd i ongl newydd ar hanes y Rhyfel Mawr yng Nghymru, ac yn wir dengys y ffynonellau bod cymaint o amrywiaeth ar gael wrth edrych ar straeon y dynion o Gymru.’’
Ychwanegodd Dr Gethin Matthews, Darlithydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Adran Hanes a’r Clasuron Prifysgol Abertawe: ‘‘Prif nod y prosiect yw ceisio deall y milwyr yn well – eu syniadau, gobeithion a’u hofnau wrth wynebu her y rhyfel.
“Mae’r dystiolaeth a gasglwyd wedi caniatáu i ni roi cig ar esgyrn y straeon a chael gwell dealltwriaeth o’r gymdeithas roedden nhw’n byw ynddi.
”Rwy’n mawr obeithio bod lansio’r deunydd a chyflwyno tystiolaeth o’r newydd yn yr Eisteddfod wedi ysgogi pobl i ystyried gwir effaith yr ymladd ar gymdeithasau Cymru unwaith yn rhagor.’’