Ifor ap Glyn gyda'r Goron
Y bardd, cynhyhrchydd a chyflwynydd teledu Ifor ap Glyn o Gaernarfon yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych eleni.
Cafodd y Goron ei chyflwyno iddo mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Llun.
Roedd 29 o feirdd wedi cystadlu yn y gystadeluaeth eleni. “Rhywun arall” ddaeth i’r brig am ei gasgliad o gerddi digynghanedd ar y testun “Terfysg”.
Mae ei gerddi yn ymateb i siom ffigurau’r cyfrifiad a gyhoeddwyd y llynedd – a’r angen am fwy o “derfysg” gan y Cymry ynghylch yr iaith.
Cafodd Ifor ap Glyn ei fagu yn Llundain ond mae bellach yn byw yng Nghaernarfon. Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni Da ac mae wedi ennill sawl gwobr am ei waith ym maes hanes a rhaglenni ffeithiol.
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Mon 1999 ac mae’n aelod o dim Talwrn Caernarfon, ac roedd yn Fardd Plant Cymru yn 2008/9. Cyhoeddwyd pedair cyfrol o’i waith.
‘Beirdd Ewrop yn ysbrydoliaeth’
Er ei fod wedi ennill y wobr o’r blaen, dywedodd Ifor ap Glyn bod lle arbennig yn ei galon i’r fuddugoliaeth hon.
“Fe wnes i fyw yn y dyffryn am ddwy flynedd ar ôl priodi a gan fod y goron hon wedi cael ei hysbrydoli gan y bryniau ble roeddwn i’n byw, mae hi’n golygu llawer i mi.”
Ychwanegodd Ifor ap Glyn bod steil y cerddi wedi cael eu hysbrydioli gan weithdy cyfieithu barddoniaeth fuodd o’n cymryd rhan ynddi yn Yr Almaen.
“Casgliad o 18 o gerddi byrion sydd yma. Dwi fel arfer yn sgwennu cerddi sydd dros dudalen o hyd ond mae beirdd Ewrop yn sgwennu cerddi llai na beth o’n i wedi arfer a nhw – gyda 3 neu 4 yn ffitio ar un dudalen.
“Roedd hynny’n fy ngorfodi i feddwl am farddoniaeth mewn ffordd wahanol ac mae o’n bendant yn rhywbeth yr hoffwn i barhau gydag o.”
‘Casgliad i ddifyrru a sobri’
Y beirniaid oedd Ceri Wyn Jones, John Gruffydd Jones a Geraint Lloyd Owen.
Dywedodd Ceri Wyn Jones: “Mae Rhywun Arall yn cychwyn ei gasgliad yn syllu ar ganlyniadau Cyfrifiad 2011 ar sgrin ei gyfrifiadur, ac mae ei lygaid yn brif wrth iddo weld y rhifau.
“Mae’r bardd yn mynd am dro i fannau arwyddocaol yn ei fywyd bob-dydd ac yn hanes ei genedl. Mae presenoldeb ddoe a’r hyn a gollwyd yn amlwg yn y cerddi a chysgod hynt gwynt a glaw Gruffudd ap yr Ynad Goch, a llu o gyfeiriadau llenyddol eraill, yn drwm ar bob un gerdd bron.
“Ond nid cerddi ddoe ydynt na chwaith cerddi trwm i gyd, oherwydd mae gwreiddioldeb dweud, dychan a hiwmor Rhywun Arall yn cyd-bwyso’r digalondid… Personoliaeth y bardd galluog hwn, ynghyd a theyrnged yr iaith Gymraeg ei hun, sy’n rhoi unoliaeth i’r casgliad cyfoethog hwn, casgliad i ddifyrru a sobri am yn ail.”