Yr Athro Noel Lloyd
Mae aelod o’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru wedi dweud heddiw bod y mwyafrif o bobl maen nhw wedi siarad gyda nhw o blaid datganoli pellach i Gymru.

Ond ychwanegodd yr Athro Noel Lloyd mewn araith ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw bod y Comisiwn eisiau clywed oddi wrth gymaint o bobl ag sy’n bosib cyn i’r ymgynghoriad gau ar 27 Medi.

Mae’r Comisiwn yn gweithio ar Ran II ei gylch gwaith, sef adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei adroddiad ar Ran II yng ngwanwyn 2014.

‘Ymateb calonogol’

Sefydlwyd y comisiwn yn 2011 gan Lywodraeth y DU i adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd adroddiad ar Ran I y gwaith – Adroddiad Silk – a oedd yn edrych ar bwerau cyllidol y Cynulliad ym mis Tachwedd y llynedd.

Yn yr Eisteddfod, rhoddodd yr Athro Noel Lloyd amlinelliad i’r gynulleidfa o sut mae’r comisiwn yn mynd ati i gyflawni’r gwaith. Dywedodd bod yr ymateb maen nhw wedi ei gael hyd yma yn galonogol a’u bod nhw wedi cael ystod eang o sylwadau.

Ychwanegodd bod y mwyafrif o bobl maen nhw wedi siarad gyda nhw hyd yma o blaid datganoli bellach i Gymru.

Ond pwysleisiodd bod y Comisiwn eisiau clywed gan gymaint o bobl ag y gallan nhw ac roedd yn annog y cyhoedd i fanteisio ar y cyfle i rannu eu barn ar ddatganoli.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd: “O’r cychwyn cyntaf, rydym wedi pwysleisio yr hoffem ni glywed barn cynifer o bobl a phosib er mwyn ein helpu ni gyda’n gwaith.

“Yn ein hadroddiad ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, rydym yn gobeithio gallu argymell sut y gellid gwneud y setliad datganoli yn fwy eglur a chydlynol.

“Rydym yn sylweddoli y ceir rhai elfennau anodd eu deall a’u datrys ym mhob setliad datganoli. Serch hynny, er ein bod yn gobeithio y byddwn yn gallu argymell ffyrdd o leddfu ansicrwydd o’r fath, rydym hefyd yn gobeithio y byddwn yn gallu argymell sut y gall y Cynulliad a’r Senedd, a’r ddwy lywodraeth, gydweithio ar elfennau o’r fath er mwyn gwasanaethu pobl Cymru yn well. “