Mae awdurdodau’r Eisteddfod yn gobeithio bod trefn newydd o docynnau am atal twyll oedd yn costio arian mawr i’r brifwyl.

Maen nhw wedi gorfod rhoi sgwâr arian ar bob tocyn a dileu’r system o roi stamp i bobol wrth adael er mwyn rhwystro pobol rhag dod i mewn am ddim.

“Roedd hi’n broblem ddifrifol,” meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards. “Yn y diwedd, rydech chi’n sôn am lot o arian.”

“Mae’n drist ein bod yn gorfod gwneud hyn,” meddai.

Y ffyrdd o ffugio

Mae Hywel Wyn Edwards wedi datgelu wrth Golwg 360 rhai o’r ystrywiau yr oedd pobol yn eu defnyddio. Mae’r rheiny’n cynnwys:

  • Ffugio tocynnau – atal hynny yw pwrpas y sgwâr arian.
  • Rhannu stamp gyda phobol eraill – system freichledi sydd bellach.
  • Dod â phobol ychwanegol i’r maes mewn ceir oedd yn cario offerynnau – bellach rhaid dangos pob tocyn.
  • Pobol yn dweud celwydd eu bod yn aelodau mewn corau – bellach mae swyddogion corau’n cael yr union nifer o docynnau.

Mae yna beiriannau sy’n sganio tocynnau bellach wrth bob mynedfa a’r system yn cael eu harolygu’n dynnach nag erioed o’r blaen.

“Fel yr heddlu a throseddwyr, rydan ni’n trio cadw ar y blaen,” meddai Hywel Wyn Edwards. “Roedd rhai pobol yn ymfalchïo yn eu gallu i dwyllo.”