Plas Llanerchaeron
Mae S4C wedi cyhoeddi pwy sydd wedi cael eu dewis i fynd yn ôl mewn amser i gael blas ar fywyd mewn plasty Cymreig ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.
Dechrau Medi bydd deunaw o bobl yn byw am gyfnod ym Mhlas Llanerchaeron gan fyw, gwisgo a gweithio fel oedden nhw yn 1910 yng nghyfres hanes byw gyntaf S4C.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Ry’ ni yn chwilio am gyfresi a fydd yn herio ein cynulleidfa, yn cyflwyno adloniant ar un llaw, wrth addysgu ar y llall ac mae’r Plas yn sicr am wneud hynny.
Mandy a Dean Quick fydd Meistres y Tŷ a Phenteulu Y Plas, a’u plant, Elicia sy’n 9 oed, Macsen sy’n 7 a Betsan sy’n 3 oed fydd plant Y Plas.
Bydd eu mam-gu, Margaret Tobias, sef mam Mandy hefyd yn byw fel boneddiges ym Mhlas Llanerchaeron.
Gwilym Lloyd Davies o Sir Fôn fydd yn cadw trefn ar bawb wrth iddo gamu i esgidiau Bwtler Y Plas; Elin Ifan o Fangor fydd Rheolwraig y Tŷ a Jasmine Wilson o Bontrhydfendigaid fydd yn gyfrifol am fwydo pawb wrth iddi dderbyn swyddogaeth Cogyddes Y Plas.
Yn ymuno â nhw fel aelodau o’r gweithlu lawr grisiau fydd Fiona Haf Jones o Abergele; Aled Morgan Hughes o Langadfan; Dewi Preece o Gaerdydd; Ruth Evans o Gwm Gwendraeth sydd bellach yn byw yng Nglangwili; Dan Skyrme o Gaerfyrddin sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd; Anna Jones o Groesoswallt; Gary Jones o’r Bala; Rowan Sarah Davies o Gaerfyrddin a Cathryn Davies o Gydweli.
Ychwanegodd Dafydd Rhys: “Mae criw brwd o gymeriadau lliwgar yn barod i fentro i mewn i’r plas – yn unigolion o dair oed hyd at 69 oed! – ac fe gawn gyfle i ymddiddori mewn cyfnod arbennig o hanes wrth eu gwylio yn byw, gweithio a hamddena fel y byddai pobol wedi gwneud mewn plasty Cymreig crand ym 1910.”
Meddai Rachel Evans, cynhyrchydd y gyfres: “Mae pob un o drigolion newydd Y Plas wedi dangos awch arbennig at yr her enfawr o’u blaenau. Ond dychmygwch fywyd ym 1910; dim peiriant golchi neu dractor, dim cyfrifiadur na theledu.
“I’r rhai fyny grisiau, bydd bywyd yn braf, ond i’r rhai o dan y grisiau, bydd hi’n stori go wahanol. Mi fydd y trigolion, a’r gwylwyr yn darganfod yn ddigon buan os yw byw a bod yn hanes y cyfnod yn ormod yng ngwres y gegin a gwaith caled y fferm.”