Elin Jones
Fe fydd rhaid i’r Prif Weinidog weithredu i sicrhau safonau cadarn ar gyfer y Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus – neu fe fydd yn cael ei gyhuddo o fethu’r iaith.

Dyna rybudd AC Plaid Cymru, Elin Jones, mewn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod – ac yntau bellach yn gyfrifol am yr iaith, roedd y gallu i wneud gwahaniaeth yn llwyr yn nwylo Carwyn Jones, meddai.

Fe ddywedodd y byddai’r Prif Weinidog yn wynebu cwestiynau yn y Cynulliad bob wythnos o hyn ymlaen, nes y bydd y safonau’n dod.

Yr amserlen ‘yn llithro’

Roedd hi a gwleidyddion eraill wedi mynegi pryder bod amserlen y safonau’n llithro gan fod y dyddiad ar gyfer dechrau ymgynghori wedi’i fethu.

Ac fe arwyddodd Elin Jones a’r AC Llafur, Keith Davies, ac AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, ddeiseb yn galw am yr hawl i ofal iechyd Cymraeg, yr hawl i weithio yn Gymraeg a’r hawl i chwarae yn Gymraeg.

Fe soniodd Keith Davies eto am ei brofiad yn methu â chael gwasanaeth Cymraeg yn Ysbyty’r Brifysgol Caerdydd, er y gallai hynny fod wedi cael canlyniadau difrifol.

Yn ôl Elin Jones, roedd plentyn 4 oed mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yng Ngheredigion wedi gorfod cael ei hyfforddiant cynta’ gan nyrs ysgol yn uniaith Saesneg.

Ac yn ôl Aled Roberts, roedd hi’n hanfodol cael trafodaeth iawn ar y safonau iaith o fewn y Cynulliad er mwyn sicrhau safonau cadarn – ar hyn o bryd, doedd dim trafodaeth swyddogol am yr iaith yn digwydd yno.