Hywel Wyn Edwards
Mae trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi annog pobl i adael eu peiriannau SatNav adref cyn dod i’r brifwyl eleni.
Er nad oes problemau traffig wedi bod hyd yma, dywedodd Hywel Wyn Edwards bod yr arwyddion ffordd sy’n dangos y ffordd i’r brifwyl wedi cael eu cynllunio’n ofalus i hwyluso rhediad y traffig a bod peiriannau SatNav yn arwain ymwelwyr ffordd wahanol.
“Taflwch y TomTom allan trwy’r ffenestr a dilynwch yr arwyddion,” oedd neges Hywel Wyn Edwards heddiw.
“Ac os wnewch chi hynny, fe wnewch chi gyrraedd maes parcio sy’n nes i’r ganolfan groeso na fyddech chi fel arall.”
Ychwanegodd Hywel Wyn Edwards bod “awyrgylch hyfryd” wedi bod ar y maes yn ystod y penwythnos agoriadol ac er ei bod hi wedi bod yn bwrw dros nos a bore heddiw, bod dim problem wedi bod gyda’r meysydd parcio a bod y tir wedi dal “yn wych” hyd yn hyn.