Rwdlan yn dangos ei ap newydd i griw Ysgol Gynradd Llanrug
Bore ddoe cafodd ap newydd yn serennu cymeriad Rwdlan ei lansio’n swyddogol yn Ysgol Gynradd Llanrug.
Roedd Rwdlan ei hun yno i ddangos yr ap newydd sydd ar gael ar ddyfeisiadau iPad ac iPad mini, i’r disgyblion brwdfrydig.
Yno hefyd i weld ei chymeriad yn camu i lwyfan digidol newydd oedd awdur a chreawdwr Rwdlan, Angharad Tomos.
“Mi anwyd Rwdlan yn yr 80au cynnar pryd doedd dim sôn am bethau fel hyn” meddai Angharad Tomos.
“Mae’r cyfrwng yma mor bresennol, yr ofn ydy y byddan nhw’n trio cyffwrdd y llyfrau a disgwyl iddyn nhw ymateb yn yr un modd a’r cyfrwng digidol!”
Amserol
Datblygwyd yr ap newydd gan gwmni Golwg mewn cydweithrediad â chynllun CEMAS ym Mhrifysgol De Cymru – prosiect sy’n derbyn nawdd Ewropeaidd i helpu busnesu Cymreig i ddatblygu rhaglenni fel hyn.
“Mae o’n ddatblygiad cyffrous iawn ac yn amserol iawn gan ein bod ni newydd gyhoeddi rhifyn rhif 200 o gylchgrawn Wcw a’i Ffrindiau” meddai rheolwr y prosiect, Owain Schiavone.
“Mae Rwdlan yn y cylchgrawn ers y dechrau, ac mae hwn yn gyfle gwych i’w chyflwyno ar gyfrwng newydd a chyffrous.”
Cynhaliwyd y lansiad yn Ysgol Gynradd Llanrug gan ei bod yn ganolfan hyfforddi swyddogol i gwmni Apple – yr unig un cyfrwng Gymraeg mewn bodolaeth.
Dyma ddarn fideo o’r lansiad: