Enid Jones yn gwrthod mynd (Llun Keith Morris)
Fe gyfaddefodd un o gabinet Ceredigion mai “teimladau cymysg” oedd ganddo wrth i’r cyngor ddechrau’r broses o daflu gwraig oedrannus o’i chartref.
Fe benderfynodd y Cyngor heddiw y bydden nhw’n gofyn am orchymyn prynu gorfodol I fynd â thŷ Enid Jones, sydd wedi gwrthod symud i wneud lle i ddatblygiad siopa.
Mae’r cyngor yn dweud y bydd y datblygiad yng nghanol tref Aberystwyth yn creu 280 o swyddi amser llawn, gan gynnwys siopau Marks and Spencer a Tesco.
‘Yr unig ffordd’
“Ry’n ni’n falch iawn o gael cefnogaeth er mwyn sicrhau bod y datblygiad hwn yn gallu digwydd,” meddai Gareth Lloyd, y cynghorydd sydd â’r portfolio datblygu economaidd ar y cabinet.
“Mae yna deimladau cymysg, wrth gwrs, yn enwedig o ystyried sefyllfa’r unigolyn sy’n colli ei chartref. Ry’n ni wedi bod yn barod iawn i drafod y sefyllfa gyda’r unigolyn drwy gydol yr amser.
“Ond hwn oedd yr unig ateb ar ôl edrych ar bob posibilrwydd arall, yn enwedig oherwydd y gwaith fydd yn gorfod cael ei wneud dan y ddaear ac yn y blaen. “Hwn oedd yr unig ffordd o sicrhau’r datblygiad.”
Mae’r Cyngor hefyd yn dadlau y bydd y datblygiad yn cynnig rhagor o lefydd parcio – a’r rheiny’n rhad ac am ddim am deirawr – ac yn cyfrannu rhwng £1.6 miliwn a £3.5 miliwn at economi’r ardal.
Gwrthod symud
Ers tua dwy flynedd, mae Enid Jones wedi gwrthod gwerthu ei thŷ ar Stryd Glyndwr ei wneud lle i’r datblygiad. Mor ddiweddar â mis Chwefror roedd hi’n dal i ddweud na fydai’n symud.
Mae trafodaethau’n parhau rhwng y datblygwyr a rhai o drigolion eraill y stryd.