Alun Davies
Mae’r gweinidog sy’n gyfrifol am amaeth yng Nghymru wedi dweud wrth ffermwyr bod rhaid dibynnu llai ar grantiau a chanolbwyntio mwy ar fusnes a gwneud elw.

Ac mae Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, hefyd wedi galw am “beidio â gwastraffu amser” tros gystadleuaeth rhwng cynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd.

“Mae’r ddau’n annatod a rhaid i ni gael y ddau,” meddai yn sgil cynhadledd fusnes ffermio yn Llandrindod.

Fe gadarnhaodd y bydd £4.5 miliwn yn rhagor yn cael eu rhoi at raglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru er mwyn annog syniadau newydd a chefnogi cynllunio busnes.

Eisiau rhagor o gymorth

Ond roedd un o’r undebau wedi galw am ragor o gymorth oherwydd y problemau sy’n wynebu’r diwydiant.

Roedd y diciâu ymhlith gwartheg a’r gaeaf hir wedi creu colledion, meddai Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones.

Mae ffermwyr wedi cyhuddo’r Gweinidog o’u bradychu nhw trwy wrthod rhoi iawndal i ddelio ag effeithiau’r tywydd.