Mae lansiad brechlyn newydd i fynd i’r afael â firws Schmallenberg (SBV) mewn defaid a gwartheg wedi cael ei groesawu gan Undeb Amaethwyr Cymru .
Dywedodd cadeirydd pwyllgor iechyd a lles anifeiliaid yr Undeb, Catherine Nakielny, ei fod yn “newyddion gwych i’r gymuned ffermio”.
Daw’r newydd wedi i Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol roi caniatâd i ddefnyddio brechlyn Bovilis SBV – a ffermwyr y DU fydd y cyntaf yn Ewrop i’w ddefnyddio ar eu da byw.
Mae firws Schmallenberg yn effeithio defaid, gwartheg a geifr. Mae’n gallu achosi anffurfio a namau ar wyn a lloi, ac fe achosodd golledion trwm eleni i rai ffermwyr oedd yn wyna’n gynnar.
‘Newyddion gwych’
“Mae hyn yn newyddion gwych i’r gymuned ffermio. Mae’r brechlyn yn golygu y gall ffermwyr frechu defaid a gwartheg cyn i’r rhan fwyaf ohonyn nhw feichiogi,” meddai Catherine Nakielny.
“Mae hyn yn bwysig gan mai yn ystod beichiogrwydd cynnar mae’r firws yn gallu achosi difrod i’r ffoetws.
“Mae 1,753 o achosion o SBV wedi’u cadarnhau ledled y DU ac mae’r firws wedi cael ei ganfod ym mhob sir yng Nghymru a Lloegr felly rydym yn falch y bydd ffermwyr nawr yn cael y dewis i frechu eu hanifeiliaid rhag y clefyd hwn.”
Does dim risg hysbys i iechyd pobl o SBV ond pwysleisiodd yr Undeb bod menywod beichiog yn cael eu cynghori i fod yn ofalus o gwmpas anifeiliaid fferm a dilyn trefniadau llym o ran glanweithdra.