Y frech goch
Mae peryg o hyd y bydd y frech goch yn taro rhagor o ardaloedd yng Nghymru, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Maen nhw’n bryderus fod 33,000 o bobo ifanc rhwng 10 a 18 oed yn dal i fod heb gael eu brechu. Dyna’r oed mwya’ peryglus.

Er hynny, mae mwy na 61,300 o bobol wedi derbyn brechiad MMR yn sgil achosion o’r frech goch yn ardal Abertawe.

Peryg o achosion

“Fe fydd posibilrwydd parhaus o achosion o’r frech goch mewn rhannau eraill o Gymru, nes y byddwn ni’n gostwng nifer y bobol sydd heb eu brechu,” meddai Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Gwarchod Iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Erbyn hyn mae 1136 o bobol wedi dal y frech goch yng nghylch Abertawe ers dechrau mis Tachwedd y llynedd a 200 arall o achosion wedi eu cofnodi yng Nghymru.

Yn ystod 2011, dim ond 19 o achosion oedd yna trwy’r wlad.

Fe fydd y sesiynau brechu brys yn ardal Abertawe’n dod i ben ddiwedd y mis.