Masood Yousef yn derbyn gwobr am hyrwyddo dealltwriaeth rhwng crefyddau (Llun Prifysgol Abertawe)
Mae llefarydd ar ran Moslemiaid yng Nghymru wedi condemnio’r ymosodiad terfysgol ar filwr yn Llundain.

Roedd Masoof Yousef o Abertawe’n croesawu’r ffaith fod y ddau ymosodwr wedi eu dal yn fyw, “er mwyn i gyfiawnder gael ei gweinyddu”.

Roedd y darlithydd prifysgol 36 oed yn siarad ar ran Sefydliad Materion Moslemaidd Cymru.

Roedd yr ymosodiad y tu hwnt o giaidd ac yn troi ar rywun, meddai.

“Dyw ein hymateb ni ddim yn wahanol i unrhyw berson gwâr arall i weithred lwfr, a gyflawnwyd gyda mileindra calon galed gan unigolion a oedd yn herwgipio anfodlonrwydd byd-eang mewn ymgais fas i gyfiawnhau eu trosedd a’u casineb.”