David Cameron yn gwneud datganiad y bore yma (PA)
Fe fydd yr ymosodiad terfysgol ar “filwr dewr” yn dod â’r Deyrnas Unedig at ei gilydd  ac yn “ein gwneud yn gryfach,” meddai David Cameron.

Roedd y Prif Weinidog yn siarad y tu allan i Downing Street ar ôl dod yn ôl yn gynnar o ymweliad swyddogol â Ffrainc er mwyn cadeirio cyfarfod o COBRA, pwyllgor ymateb brys y Llywodraeth, y bore yma.

“Mae’r bobol a wnaeth hyn yn ceisio ein rhannu. Fe ddylen nhw wybod mai dim ond dod â ni at ein gilydd wnaiff peth fel hyn a’n gwneud yn gryfach,” meddai.

“Yn ogystal â bod yn ymosodiad ar Brydain ac ar y ffordd Brydeinig o fyw; roedd hefyd yn bradychu Islam a’r cymunedau Moslemaidd sy’n rhoi cymaint i’n gwlad.”

Yr ymchwiliad yn parhau

Wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen, mae heddlu gwrth-derfysgaeth wedi chwilio adeilad 150 o filltiroedd i ffwrdd yn Swydd Lincoln ac un arall yn Llundain.

Mae heddlu gwrth-derfysgaeth yn paratoi i holi’r ddau ddyn gafodd eu saethu a’u hanafu ar ôl lladd aelod o’r lluoedd arfog y tu allan i farcis yn Woolwich, de-orllewin Llundain ddoe.

Y gred yw bod y ddau ddyn, sy’n cael eu trin mewn gwahanol ysbytai, yn ddinasyddion Prydeinig gyda chysylltiadau â Nigeria ac wedi troi at ffurf radical o Islam.

Ond, yn ôl yr awdurdoda, does dim lle i gredu bod ganddyn nhw gysylltiadau â grwpiau terfysgol yn Nigeria, fel y sefydliad jihadist, Boko Haram.

COBRA

Wrth iddo gyrraedd cyfarfod COBRA, bore ‘ma dywedodd maer Llundain Boris Johnson ei fod yn anghywir cysylltu’r llofruddiaeth gyda pholisi tramor y DU neu gyda gweithredoedd tramor y lluoedd arfog.

Fe wnaeth y maer hefyd annog pobl Llundain i “fynd o gwmpas eu bywydau yn y ffordd arferol”.

Roedd diogelwch yn dynn yn y barics gegr y fan lle bu’r llofruddiaeth a chafodd milwyr yn Llundain eu cynghori i beidio â gwisgo eu lifrai y tu allan i’w barics.

Dewrder dynes

Yn y cyfamser, mae dynes a beryglodd ei bywyd ei hun  i wynebu un o’r llofruddwyr wedi disgrifio sut y bu hi’n ei dawelu eiliadau ar ôl yr ymosodiad.

Roedd Ingrid Loyau-Kennett, 48, yn teithio ar fws trwy Woolwich pan welodd y milwr yn gorwedd yng nghanol y ffordd.

Mae ei ddewrder hi, ac eraill, a geisiodd resymu gyda’r dynion  wedi cael ei ganmol.