Safle'r ymosodioad yn Woolwich
Mae heddlu gwrth-derfysgaeth wedi chwilio dau dŷ yn Llundain a Swydd Lincoln yn dilyn llofruddiaeth milwr yn Llundain ddoe.
Mae nhw hefyd yn paratoi i holi’r ddau ddyn gafodd eu saethu a’u hanafu ar ôl ly digwyddiad y tu allan i farcis yn Woolwich, de-orllewin Llundain.
Credir bod y ddau ddyn, sy’n cael eu trin mewn gwahanol ysbytai, yn ddinasyddion Prydeinig gyda chysylltiadau efo Nigeria a’u bod wedi troi at ffurf radical o Islam.
Ond does dim lle i gredu bod ganddyn nhw gysylltiadau â grwpiau terfysgol Nigeria, fel y sefydliad jihadist, Boko Haram.
COBRA
Wrth iddo gyrraedd cyfarfod COBRA, pwyllgor ymateb brys y llywodraeth, y bore ‘ma dywedodd maer Llundain Boris Johnson ei fod yn anghywir cysylltu’r llofruddiaeth gyda pholisi tramor y DU neu gyda gweithredoedd tramor y lluoedd arfog.
Fe wnaeth y maer hefyd annog pobl Llundain i “fynd o gwmpas eu bywydau yn y ffordd arferol”.
Roedd mesurau diogelwch llym yn y barics ger lleoliad y llofruddiaeth y bore ‘ma ac fe gafodd milwyr yn Llundain eu cynghori i beidio â gwisgo eu lifrau milwrol y tu allan i’w barics yn dilyn yr ymosodiad ddoe.
Ond yng nghyfarfod COBRA y bore yma, cytunwyd nad rhoi gorchmynion yn erbyn gwisgo lifrau milwrol yn gyhoeddus yw’r ymateb cywir i’r digwyddiad
Roedd y Prif Weinidog, David Cameron wedi dychwelyd yn fuan o ymweliad swyddogol â Ffrainc er mwyn cadeirio’r cyfarfod.
Mewn neges ar Twitter, dywedodd Mr Cameron y byddai’n gwneud datganiad ar y “llofruddiaeth ffiaidd” y bore yma.
Dewrder y cyhoedd
Yn y cyfamser, mae dynes a beryglodd ei bywyd ei hun i wynebu un o’r llofruddwyr wedi disgrifio sut wnaeth hi geisio ei dawelu eiliadau ar ôl yr ymosodiad.
Roedd Ingrid Loyau–Kennett, 48, yn teithio ar fws trwy Woolwich pan welodd y milwr yn gorwedd yng nghanol y ffordd.
Mae ei ddewrder hi, ac eraill, a geisiodd resymu gyda’r dynion wedi cael ei ganmol.
Fe wnaeth AS Woolwich a Greenwich, Nick Raynsford, ganmol dewrder “anhygoel” aelodau’r cyhoedd.
Mae’r llywodraeth eisoes wedi cadarnhau mai aelod o’r lluoedd arfog gafodd ei ladd ond dyw e ddim wedi cael ei enwi hyd yma am fod y teulu wedi gofyn i’r awdurdodau beidio gwneud hynny.
‘Help for Heroes’
Roedd y milwr, oedd yn gwisgo crys T yr elsuen militaraidd “Help for Heroes” yn cerdded rhyw 200 llath o farics y Royal Artillery yn Woolwich pan gafodd ei daro yn gyntaf gan gar. Daeth dau ddyn allan o’r car wedyn yn cario machetes a gwn a dechrau ymosod arno.
Cafodd y ddau eu ffilmio gan lygad-dystion ac mae un i’w glywed yn dweud ei fod “yn tyngu yn ôl yr Hollalluog Allah na wnawn ni fyth roi’r gorau i ymladd yn eich erbyn.”
Cafodd y ffilm ei throsglwyddo i ITN ac mae’r dyn hefyd i’w glywed yn ymddiheuro bod merched wedi gorfod gweld yr hyn ddigwyddodd gan ychwanegu “Mae’n rhaid i ni eu hymladd nhw fel mae nhw’n ein hymladd ni. Llygad am lygad, dant am ddant. Fyddwch chi bobl byth yn ddiogel. Cewch wared â’ch llywodraeth, tydi ddim ots ganddyn nhw amdanoch chi.”