Lesley Griffiths AC

Fe fydd Comisiynwyr Llywodraeth Cymru yn rhoi’r gorau i ymyrryd yng ngweinyddiaeth Cyngor Ynys Môn ar 31 Mai.

Mewn cyhoeddiad heddiw, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Lesley Griffiths ei bod yn ffyddiog y gall y cyngor ymdrin â’i faterion ei hun heb ymyrraeth allanol a bod y Comisiynwyr benodwyd ar ran y Llywodraeth yn cytuno â hi.

“O dan arweiniad y Comisiynwyr, mae’r Cyngor wedi dangos egin adferiad ac rydyn ni’n disgwyl gweld gwelliant parhaus.

“Y prynhawn yma, bydd y Cyngor yn ethol Arweinydd newydd, a fydd yn ddechreuad newydd.

“Gwaith y garfan newydd o Gynghorwyr fydd adeiladu ar gynnydd eu rhagflaenwyr o dan arweiniad y Comisiynwyr”.

Mae Prif Weithredwr Cyngor Ynys Môn, Richard Parry Jones wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Ers adfer rheolaeth ddemocrataidd ym mis Hydref 2012, mae Ynys Môn wedi dangos gwir awch ac ymrwymiad i newid.

“Rwy’n hyderus bod y Cyngor yn gallu ymdrin â’i faterion ei hun. Rydyn ni eisoes yn gwneud cynnydd da o ran gwella gwasanaethau ac rydyn ni wedi ymateb yn gadarnhaol i arweiniad y Comisiynwyr a’n rheoleiddwyr.”

Ychwanegodd, “Bellach, mae gan yr Awdurdod raglen drawsnewid uchelgeisiol a fydd yn sbardun i wella gwasanaethau’n sylweddol ar ran pobl Ynys Môn.”