Ade Akinfenwa
Mae dyn 25 oed wedi cael ei gyhuddo o anfon negeseuon hiliol ar Trydar at gyn-ymosodwr Abertawe, Ade Akinfenwa a chadeirydd y Gymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol, Clarke Carlisle.

Cafodd Ben Townsend, 25, o Cheltenham ei gyhuddo o ddau gownt o anfon neges sarhaus, anweddus, ffiaidd neu fygythiol yn gyhoeddus.

Cafodd ei arestio ar Fai 8 yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Swydd Gaerloyw a Heddlu Swydd Northampton.

Mae e wedi’i ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd e’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Cheltenham ar Fehefin 21.