Mae amddiffynwr Real Madrid, Sergio Ramos wedi dweud y byddai asgellwr Spurs a Chymru, Gareth Bale yn berffaith i’r clwb.
Mae’r dyfalu am ddyfodol Bale yn parhau wedi i Spurs fethu â sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.
Real Madrid yw’r ffefrynnau i arwyddo’r chwaraewr 23 oed pe bai’n penderfynu gadael White Hart Lane.
Dywedodd Sergio Ramos wrth bapur newydd y Sun: “Mae Gareth Bale yn gaffaeliad o safon Real Madrid.
“Mae e wedi cael tymor rhagorol.
“Gall e gosbi unrhyw dîm yn y byd ac mae ganddo fe’r rhinweddau pêl-droed ry’n ni’n chwilio amdanyn nhw ym Madrid.
“Rwy’n sicr nad Madrid fydd yr unig dîm fydd yn dymuno’i arwyddo fe – ond mae e o’r iawn ryw i ni.”
Sgoriodd Bale yng ngêm ola’r tymor yn erbyn Sunderland – ei 26ain gôl o’r tymor.
Ond fydd e ddim yn cael chwarae yn Ewrop y tymor nesaf oni bai ei fod e’n symud.
Mae rheolwr Spurs, Andre Villas-Boas yn awyddus i’w gadw yn Llundain, ac mae e eisoes wedi gofyn iddo fe arwyddo cytundeb newydd.
Yn dilyn tymor llwyddiannus, cafodd Bale ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, a Chwaraewr y Flwyddyn y Gymdeithas Awduron Pêl-droed.
Ac mae darllenwyr Golwg360 wedi pleidleisio dros Gareth Bale fel y chwaraewr gorau erioed i wisgo crys Cymru.