Mynydd Everest (pavel noval CCA 2.5)
Dyn 80 oed o Japan yw’r hynaf erioed i ddringo i gopa mynydd Everest.
Cyrhaeddodd Yiuchiro Miura y copa 29,035 troedfedd uwchben y ddaear toc wedi 9 o’r gloch bore ma.
Hwn yw’r trydydd tro iddo ddringo i gopa’r mynydd.
Mae’n torri record Min Bahadur Sherchan o Nepal, oedd yn 76 oed pan gyrhaeddodd e’r copa yn 2008.
Ond mae’n annhebygol o ddal y record am lawer mwy nag wythnos.
Mae Min Bahadur Sherchan, sydd bellach yn 81 oed, am roi cynnig arall arni yr wythnos nesaf er mwyn ad-ennill y record.
Ar ôl torri’r record, fe ddywedodd Yiuchiro Miura wrth newyddiadurwyr: “Hwn yw’r teimlad gorau yn y byd.
“Rwy hefyd wedi llwyr ymlâdd.”
Wrth esbonio pam ei fod e wedi ceisio torri’r record, fe ddywedodd ei bod yn “her i gyrraedd fy nherfynau fy hun.
“Os mai’r terfyn yn 80 oed yw copa mynydd Everest, y lle uchaf ar wyneb y ddaear, all dyn ddim bod yn hapusach.”