Bae Caerdydd
Fe gafodd y cam nesa’ yn natblygiad Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd ei lansio heddiw.

Bydd y prosiect yn cynnwys adeiladu arena iâ sydd ddwbl y maint Olympaidd a thuag 800 o gartrefi newydd yn ardal Bae Caerdydd.

Bydd yr arena iâ yn gartref i dîm hoci ia’r Cardiff Devils a bydd ar agor i’r cyhoedd hefyd. Yn y dyfodol, y gobaith fydd ehangu’r adeilad i gynnwys llethr sgïo dan do, gwesty, tai a swyddfeydd.

Cannoedd o dai newydd

Rhan o’r datblygiad diweddara’ fydd ardal breswyl newydd gwerth £200 miliwn.

Cafodd Cyngor y Ddinas ganiatâd ar gyfer y datblygiad ym mis Mawrth a bydd yn cynnwys 640 o dai, deg o gartrefi moethus pum ystafell wely a dau dŵr o fflatiau.  Bydd 160 o unedau byw fforddiadwy hefyd yn cael eu hadeiladu.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Heather Joyce: “Bydd y datblygiad hwn yn edrych yn ardderchog ond bydd hefyd yn creu miloedd o swyddi, yn denu degau o filoedd o ymwelwyr ychwanegol i’r ddinas a darparu cartrefi – yn cynnwys cartrefi fforddiadwy – i bobol yng Nghaerdydd.“