Nigel Owens
Bydd Nigel Owens yn torri’r record am ennill y mwyaf o gapiau i ddyfarnwr o Gymru pan fydd yn cadw trefn yn y gêm rhwng Seland Newydd a Ffrainc ar 22 Mehefin.
Trwy ennill ei 45 gap, bydd yn goddiweddyd un o ddyfarnwyr mwya’r gamp, Derek Bevan o Glydach, a ddyfarnodd 44 gêm yn ystod ei yrfa gan gynnwys rownd terfynol Cwpan y Byd 1991.
Y gêm ryngwladol llawn gyntaf i Nigel Owens fod yn gyfrifol amdani oedd Siapan yn Iwerddon yn 2005. Roedd hefyd ar banel y dyfarnwyr ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 2007 a 2011.
Dyfarnodd Nigel Owens ei bumed rownd derfynol Ewropeaidd mewn saith tymor pan gymerodd ofal o ffeinal Cwpan Her Amlin rhwng Leinster a Stade Francais nos Wener.
Fe ddyfarnodd rownd derfynol Cwpan Her Amlin yn 2007 hefyd a fo oedd y dyfarnwr rownd terfynol Cwpan Heineken yn 2008, 2009 a 2012.
Dyfarnwyr ifanc
Owens yw’r enwocaf o ddyfarnwyr ifanc o Gymru fydd yn cynrychioli Undeb Rygbi Cymru o amgylch y byd yr haf hwn.
Bydd Leighton Hodges o Ben-y-bont ar Ogwr yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf pan fydd yng ngofal y gêm brawf rhwng Canada ac Iwerddon ar 15 Mehefin.
Bydd Ian Davies o Borthcawl yn dyfarnu ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yr IRB tra bydd y gogleddwr, Rhys Thomas, yn teithio i Moscow ar gyfer Cwpan Rygbi Saith pob Ochr y Byd.
Dywedodd rheolwr dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru, Rob Yeman: “Rydym yn falch iawn o’n holl ddyfarnwyr sy’n cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
“Maent i gyd wedi dangos llawer iawn o waith caled ac ymrwymiad i gyrraedd y lefelau hyn a dylai’r penodiadau fod yn gymhelliant gwych i bob darpar ddyfarnwr sydd allan yno ac sydd eisiau gwneud mwy o’u hobi.”