Mae’r amddiffynnwr Dwight Tiendalli wedi cael cytundeb newydd i aros yn Abertawe.

Mae’r chwaraewr 27 oed wedi gwneud 21 o ymddangosiadau i’r Elyrch ers iddo ymuno a’r clwb ym mis Medi ar gytundeb tymor byr.

‘‘Rwyf wedi dweud sawl gwaith yr wyf yn hoff o’r clwb ac yn hoff o’r chwaraewyr sydd yma,’’ meddai Tiendalli.

Dechreuodd ei yrfa yn Ajax cyn symud i glwb pêl-droed Urecht yn 2004, ac yna i Feyenoord yn 2006 cyn glanio yng nghlwb pêl-droed Twente yn 2009.

Serch hynny, ers ymddangosiad y chwaraewr ifanc Ben Davies ar gae’r Liberty, mae ymddangosiadau Tiendalli wedi’u cyfyngu.

‘‘Rwy’n credu y gallaf edrych yn ôl ar dymor da.  Rwyf wedi chwarae mewn bron pob gêm yn erbyn y clybiau mawr yn yr Uwch Gynghrair,’’ ychwanegodd Tiendalli.