Leon Britton
Bydd chwaraewr canol cae Abertawe, Leon Britton yn teithio i’r Almaen mis nesaf i dderbyn llawdriniaeth ddwbl ar ei arffed.
Y gobaith yw y bydd y llawdriniaeth yma’n sicrhau y bydd y chwaraewr 30 oed yn barod mewn pryd ar gyfer ymarfer gyda’r garfan ym mis Gorffennaf.
Bydd Britton yn teithio i Munich gyda phrif ffisiotherapydd y clwb, Kate Rees ar gyfer y llawdriniaeth.
‘‘Yn y misoedd diwethaf mae fy arffed wedi teimlo’n go dynn, ond roeddwn eisiau chwarae drwy’r boen i orffen y tymor. Roeddwn wedi colli rhai o’r sesiynau hyfforddiant er mwyn sicrhau y byddai’n iawn i mi chwarae yn y gemau ar y penwythnosau,’’ meddai Britton.
‘‘Rwyf wedi cael llawdriniaeth ar fy arffed o’r blaen, nôl yn 2005, felly rwy’n gwybod y drefn. Bydd y tymor nesaf yn anferth i ni gan y byddwn yn cystadlu mewn pedair cystadleuaeth, felly yr wyf am wneud yn siŵr fy mod yn iach ac yn barod cyn y tymor i ddechrau,’’ ychwanegodd Britton.